Helpwch i wella gwasanaethau i bobl sydd wedi goroesi treisio
Mae Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent eisiau gwella gwasanaethau i bobl sydd wedi goroesi treisio.
Mae'r ddau sefydliad yn gofyn i oroeswyr gwblhau arolwg ar-lein a fydd yn helpu i wella ymateb asiantaethau cyfiawnder troseddol i bobl sydd wedi dioddef treisio. Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i lywio adolygiad o'r ffordd mae Heddlu Gwent yn delio ag achosion o dreisio.
Mae'r arolwg yn anhysbys a gellir ei gwblhau yma https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=158754517546
Sylwer: Os ydych chi wedi dioddef treisio, neu os yw rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef treisio ond nid yw wedi cael ei riportio eto, dylech chi ffonio 999 neu 101. Neu os hoffech chi gael cyngor a chefnogaeth, cysylltwch â Cymorth i Fenywod Cyfannol ar 01495 742052 neu Llwybrau Newydd ar 01685 379310.
Os hoffech chi gwblhau'r arolwg hwn, cysylltwch â Threfnydd Ymgysylltu â Goroeswyr Heddlu Gwent, Elizabeth Lowther, ar elizabeth.lowther@gwent.pnn.police.uk