Helpwch i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol noson Calan Gaeaf

28ain Hydref 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yn gofyn yn daer ar rieni a gwarcheidwaid i chwarae rhan hollbwysig i helpu i atal y cynnydd arferol a welir mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ar noson Calan Gaeaf.

Yn draddodiadol mae Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweld cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau ar noson Calan Gaeaf o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol, pobl yn camddefnyddio tân gwyllt, a thanau bwriadol.

Mae'r Comisiynydd yn gofyn i rieni a gwarcheidwaid sicrhau eu bod yn gwybod ble mae eu plant, a siarad gyda nhw am y difrod y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol ei achosi i gymunedau.

Dywedodd: “Mae Calan Gaeaf yn gallu bod yn un o'r nosweithiau prysuraf yn y flwyddyn i'r gwasanaethau brys. Rhaid i'r gwaith o atal plant a phobl ifanc rhag ymgysylltu ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ddechrau adref, a gofynnaf i rieni chwarae eu rhan yn helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar noson Calan Gaeaf eleni.

“Gofynnaf yn daer ar rieni a gwarcheidwaid, yn arbennig rhai sy'n byw mewn ardaloedd lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn amlwg, i sicrhau eu bod yn gwybod ble mae eu plant trwy'r amser. Hoffwn eu hannog nhw i siarad am y problemau hyn hefyd, i helpu pobl ifanc i ddeall y niwed maent yn gallu ei achosi i gymuned, ac er mwyn iddynt sylweddoli y gall ymddygiad fel hwn arwain at arést a gall niweidio eu cyfleoedd ym myd addysg a gwaith yn y dyfodol.

"Mae digonedd o ffyrdd i fwynhau Calan Gaeaf ac mae gweithgareddau wedi'u trefnu'n cael eu cynnal ledled Gwent, felly dathlwch yn ddiogel ac yn ystyriol eleni."