Helpu trigolion i ddiogelu eu cartrefi
15fed Mai 2023
Mae tîm Strydoedd Saffach Heddlu Gwent yn cynnal digwyddiad atal trosedd i drigolion Coed-duon dydd Sadwrn 20 Mai, 10am - 2pm, yn ASDA Coed-duon.
Bydd pecynnau diogelwch cartref a cherbyd, yn cynnwys eitemau fel offer marcio eiddo, offer diogelu plât rhif, larymau sied a mwy, yn cael eu rhoi am ddim i’r trigolion sy’n byw yn yr ardal.
Bydd hefyd yn gyfle i siarad â swyddogion am y pethau y gall pawb ohonom eu gwneud i wella diogelwch ac amddiffyn ein heiddo.
Darllenwch fwy am y pecynnau atal trosedd.