Heddlu Gwent yn lansio uned newydd i gefnogi dioddefwyr
Mae uned newydd sy'n ceisio cefnogi dioddefwyr troseddau wedi’i lansio yng Ngwent.
O 12 Gorffennaf, bydd dioddefwyr yn cael eu cefnogi gan yr uned gofal dioddefwyr, sydd wedi'i lleoli yng nghanolfan dioddefwyr Connect Gwent yn y Coed Duon.
Bydd y tîm, sy'n cynnwys 19 o swyddogion gofal dioddefwyr, yn gweithredu fel y pwynt cyswllt canolog ar gyfer dioddefwyr o'r adeg pan fyddant yn rhoi gwybod am drosedd hyd at ddiwedd y broses cyfiawnder troseddol. Byddant yn gweithio'n agos gyda swyddogion i sicrhau bod dioddefwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad y maen nhw’n ymwneud ag ef.
Mae'r swyddogion gofal dioddefwyr i gyd wedi’u hyfforddi i asesu anghenion unigol dioddefwyr a chynnig cymorth wedi'i deilwra. Bydd yr uned gofal dioddefwyr yn gweithio gydag asiantaethau partner i atgyfeirio dioddefwyr i gael gwell cymorth os bydd ei angen arnynt.
Bydd y tîm newydd hefyd yn sicrhau bod dioddefwyr yn gwybod beth yw eu hawliau o dan y cod ymarfer dioddefwyr.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent Pam Kelly: "Mae dioddefwyr wrth wraidd popeth a wnawn yma yn Heddlu Gwent a nod yr uned newydd hon yw gwella'r cymorth a ddarparwn i'r rhai sydd ei angen fwyaf yn ein cymunedau. Gall troseddu gael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr - mae'n hanfodol bod dioddefwyr yn cael y wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i helpu i ymdopi ac adfer.
"Rwyf eisiau sicrhau bod dioddefwyr yn cael profiad mwy cadarnhaol o'r system cyfiawnder troseddol, a dyna pam rydym wedi buddsoddi'n helaeth ynghyd â chomisiynydd yr heddlu a throseddu yn yr uned newydd hon. Gwyddom, pan roddir y gefnogaeth gywir i ddioddefwr, nid yn unig y mae'n helpu ei adferiad ac yn lleihau erledigaeth drosodd a throsodd ond, o'i gyplysu ag ymchwiliad effeithiol, ei fod yn rhoi mwy o hyder iddynt yn y system cyfiawnder troseddol i helpu i ddod â throseddwyr i gyfiawnder.
"Hoffwn ddiolch i'r rhai hynny sydd wedi dioddef trosedd sydd wedi helpu i ddatblygu'r uned gofal dioddefwyr – mae eich adborth wedi helpu i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau.
"Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod gan bob dioddefwr fwy o hyder i roi gwybod i'r heddlu am ddigwyddiadau ac mae'r uned newydd hon yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi dioddefwyr troseddau yng Ngwent."
Dywedodd Comisiynydd yr heddlu a throseddu, Jeff Cuthbert: "Mae sicrhau bod dioddefwyr troseddau yn cael y gwasanaethau, y gofal a'r cymorth gorau posibl yn flaenoriaeth i mi.
"Connect Gwent oedd y ganolfan dioddefwr gyntaf o'i math yng Nghymru ac arweiniodd y ffordd drwy ddod â gwasanaethau cymorth allweddol at ei gilydd o dan yr un to.
"Bydd yr uned newydd yn golygu bod dioddefwyr yn elwa ar gysylltiad rheolaidd â swyddog gofal dioddefwyr a fydd yn gweithio ochr yn ochr â thîm ymchwilio'r heddlu i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi'n llawn a'u bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy gydol y broses cyfiawnder troseddol."