Heddlu Gwent yn defnyddio chwaraeon i chwalu rhwystrau

23ain Chwefror 2022

Yn ystod wythnos hanner tymor cymerodd dros 50 o bobl ifanc o Gil-y-coed ran mewn twrnamaint pêl-droed 6 bob ochr yn erbyn swyddogion Heddlu Gwent.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Dyfodol Cadarnhaol a Mon Life, sy’n gyfrifol am ddarpariaeth hamdden ac ieuenctid Cyngor Sir Fynwy.

Ei nod oedd meithrin ymddiriedaeth a chydberthnasau cadarnhaol rhwng pobl ifanc a swyddogion.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “Rwy’n falch iawn bod y twrnamaint yn digwydd. Rwy’n ymwybodol bod rhywfaint o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi digwydd yn yr ardal ac rwy’n gobeithio y bydd y gwaith partner rhwng Heddlu Gwent, Cyngor Sir Fynwy, Dyfodol Cadarnhaol a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn helpu pobl ifanc ac yn eu hatal nhw rhag dechrau ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Mae ymyrraeth gynnar mor bwysig. Rwy’n daer o blaid defnyddio chwaraeon i chwalu rhwystrau rhwng pobl ifanc a’r heddlu, i newid canfyddiadau a meithrin parch. Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn ymwneud â’r digwyddiad.”

Mae Dyfodol Cadarnhaol yn darparu prosiectau ledled Gwent ac mae’n derbyn arian gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn rhan o ymrwymiad y Comisiynydd i gadw cymdogaethau’n ddiogel a gwella hyder y cyhoedd mewn plismona.

I gael rhagor o wybodaeth:

Dyfodol Cadarnhaol: https://www.newportlive.co.uk/en/community-support/community-sport-and-wellbeing/our-projects-programmes-and-initiatives/positive-futures/

Mon Life:  https://www.monlife.co.uk/connect/