Heddlu Gwent yn darparu offer gwella diogelwch cartref i drigolion ym Mhilgwenlli a Rhymni
Mae trigolion ym Mhilgwenlli (Casnewydd) a Rhymni (Caerffili) yn derbyn gwelliannau diogelwch cartref y mis yma yn rhan o ymgyrch Strydoedd Saffach Heddlu Gwent.
Aeth swyddogion i ymweld â chartrefi ym mhob ardal ym mis Medi 2021 i gyflwyno'r prosiect atal trosedd, rhoi cyngor diogelwch cartref ac asesu a ellid gosod offer diogelwch ychwanegol, gan gynnwys gwell cloeon ar ddrysau a ffenestri, goleuadau diogelwch machlud tan y wawr a systemau cloch drws CCTV, yn eu cartrefi.
Dechreuodd y gwaith diogelwch cartref, sydd am ddim i'r trigolion, yn Rhymni ym mis Ionawr a dechreuwyd gosod offer ym Mhilgwenlli yn gynharach yr wythnos hon.
Ar hyn o bryd mae dros 380 o gartrefi ar draws y ddwy ardal wedi ymrestru i dderbyn gwelliannau diogelwch cartref.
Mae'r gwaith yn cael ei ariannu trwy grant o £699.564 gan y Swyddfa Gartref i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent i ddarparu dulliau atal trosedd ym Mhilgwenlli a wardiau Moriah, Pontlotyn a Thwyncarno yn Rhymni, Caerffili.
Mae swyddogion yn defnyddio'r arian i helpu i fynd i'r afael â throseddau yn y gymdogaeth fel byrgleriaeth, dwyn a throseddau'n ymwneud â cherbydau.
Yn ogystal â chynnig a gosod offer diogelwch cartref i'r rhai sydd eu hangen, mae'r llu wedi gosod mwy o gamerâu CCTV yn Rhymni, danfon pecynnau atal trosedd a rhannu cyngor atal trosedd gyda thrigolion.
Mae'r pecynnau, a gafodd eu creu gan dîm ymgyrch arloesol Dangos y Drws i Drosedd y llu, yn cynnwys offer marcio eiddo sy'n galluogi trigolion i farcio eu heiddo gwerthfawr gydag inc sy'n anweladwy ond y gellir ei olrhain. Pan fydd yn cael ei ddefnyddio gyda'r arwyddion sydd yn y pecyn, mae'n helpu i atal trosedd ac yn gwneud yr eitemau'n fwy tebygol o gael eu darganfod a'u dychwelyd os byddant yn cael ei dwyn.
Meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman, arweinydd y llu ar fynd i’r afael â throseddau meddiangar:
"Mae'n bwysig bod trigolion lleol yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi ac yn yr ardaloedd lle maen nhw'n byw.
"Mae'r prosiect Strydoedd Saffach yn ein galluogi ni i gynnig offer diogelwch ychwanegol i bobl sydd eu hangen ym Mhilgwenlli a Rhymni.
“O ran y prosiect Strydoedd Saffach hwn, dim ond rhai o’r ffyrdd mae swyddogion lleol yn mynd i’r afael â throseddau yn y gymdogaeth yw gwell cloeon ar ddrysau, mwy o CCTV, golau stryd ychwanegol a phecynnau atal trosedd.”
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Rhan allweddol o fy Nghynllun Heddlu a Throsedd newydd yw cadw cymdogaethau’n ddiogel trwy fynd i’r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n cael effaith ar ddiogelwch a lles cymunedau. Bob dydd, mae timau cymdogaeth Heddlu Gwent yn gweithio yng nghanol cymunedau i atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan fynd i’r afael â throseddwyr pan fydd angen. Mae troseddau meddiangar - fel dwyn, byrgleriaeth a lladrata - troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a difrod troseddol yn ddinistriol i ddiogelwch a lles cymunedau.
“Mae’r cyllid Strydoedd Saffach hwn ym Mhilgwenlli a Rhymni’n golygu bod trigolion yn derbyn cyngor ar ddiogelwch yn y cartref ac offer diogelwch ychwanegol, i’w hamddiffyn ac i dawelu eu meddyliau. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid diogelwch cymunedol i dargedu pobl sy’n troseddu’n gyson, sefydlu dulliau atal trosedd sy’n seiliedig ar arfer gorau, a datblygu’r gwaith da mae Heddlu Gwent yn ei gyflawni bob dydd i wneud ein cymdogaethau yng Ngwent yn fwy diogel.”
I gael rhagor o wybodaeth am waith Heddlu Gwent i fynd i'r afael â throseddau yn y gymdogaeth, ewch i https://www.gwent.police.uk/police-forces/gwent-police/areas/campaigns/campaigns/2021/safer-streets.