Heddlu Gwent yn cyflogi Trefnydd Ymgysylltu â Goroeswyr cyntaf Cymru
Mae Trefnydd Ymgysylltu â Goroeswyr newydd wedi dechrau gweithio i Heddlu Gwent.
Dyma'r swydd gyntaf o'i math ar gyfer llu heddlu yng Nghymru a chafodd ei chreu yn dilyn argymhelliad gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Bydd yn sefydlu fframwaith cynaliadwy i ymgysylltu â goroeswyr, y gall pobl sydd wedi goroesi cam-drin domestig a thrais rhywiol ei ddefnyddio i rannu eu profiadau.
Lleoliad y swydd fydd canolfan dioddefwyr Connect Gwent, sy'n dod ag amrywiaeth o wasanaethau cymorth at ei gilydd ar gyfer dioddefwyr a thystion trosedd ac mae'r unig un o'i math yng Nghymru.
Dywedodd y Trefnydd Ymgysylltu â Goroeswyr, Elizabeth Lowther: “Fy swyddogaeth i yw sicrhau bod dull sy'n canolbwyntio ar y dioddefwr wrth wraidd ymateb Heddlu Gwent i bobl sydd wedi goroesi cam-drin rhywiol a thrais domestig.
"Rwyf am i ddioddefwyr wybod y gallan nhw ymddiried ynom ni a gyda'n gilydd gallwn wella'r gwasanaeth mae Heddlu Gwent yn ei gynnig i oroeswyr."
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “Rwyf wrth fy modd i groesawu'r Trefnydd Ymgysylltu â Goroeswyr newydd i Heddlu Gwent.
“Mae gan Elizabeth brofiad helaeth yn gweithio gyda dioddefwyr trais domestig a bydd y swydd flaengar hon y ddolen hollbwysig rhwng goroeswyr a phartneriaid strategol, yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw ddylanwadu'n gadarnhaol ar bolisïau a gweithdrefnau.
"Mae rhoi cymorth i bob dioddefwr trosedd yn flaenoriaeth hollbwysig yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Bydd y Trefnydd Ymgysylltu â Goroeswyr newydd yn ein helpu ni i sicrhau ein bod ni’n darparu'r cymorth hwnnw mewn ffordd effeithiol a chynhwysol."
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman: “Mae dioddefwyr wrth wraidd popeth rydym ni'n ei wneud a nod y swydd newydd hon yw gwella'r gwasanaeth mae Heddlu Gwent yn ei gynnig i oroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i esblygu a bod mor effeithiol â phosibl wrth fynd i'r afael â chamdriniaeth o'r fath gydag ymrwymiad diamod i ddull gwaith sy'n canolbwyntio ar y dioddefwr.
"Mae amddiffyn pobl fregus yn ein cymunedau yn flaenoriaeth i ni yma yng Ngwent. Rydym yn gweithio i sicrhau bod gan bob dioddefwr fwy o hyder i hysbysu'r heddlu am ddigwyddiadau a hoffwn annog unrhyw un sydd wedi profi cam-drin domestig neu drais rhywiol i geisio cymorth ac i'n hysbysu ni.”
Ffoniwch ni ar 101 neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Os hoffech chi gael cyngor a chymorth, cysylltwch â Connect Gwent, y ganolfan dioddefwyr, ar 0300 123 2133 neu ewch i www.connectgwent.org.uk. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.