Heddlu Gwent yn cefnogi ymgyrch cenedlaethol i fynd i'r afael â throseddau cyllyll

16eg Mai 2024

Mae Heddlu Gwent yn ymuno â heddluoedd ledled y wlad i wneud pobl yn fwy ymwybodol o beryglon cario cyllyll a llafnau.

Mae Ymgyrch Sceptre yn ymgyrch heddlu cenedlaethol sy'n dwyn heddluoedd at ei gilydd ar gyfer wythnos o weithredu dwys. Y llynedd cymerwyd 9,737 o gyllyll oddi ar y strydoedd ar draws y DU ac arestiwyd 829 o bobl am droseddau cyllyll.

Trwy gydol yr wythnos, bydd swyddogion Gwent yn cynnal patrolau pwrpasol ar draws y pum ardal awdurdod lleol ac yn gwneud cyflwyniadau mewn ysgolion er mwyn gwneud pobl yn fwy ymwybodol o effaith erchyll troseddau cyllyll. Bydd swyddogion hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i annog gwerthwyr i gymryd rhan yng nghynllun gwerthwyr cyfrifol Gwent ac ymrwymo i werthu cyllyll yn ddiogel.  

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Mae troseddau cyllyll yn dinistrio bywydau. Er bod achosion o droseddau cyllyll yn gymharol isel o hyd yng Ngwent rydym yn gwybod eu bod yn achos pryder cynyddol i'n cymunedau.

“Mae addysg yn rhan allweddol o atal y drosedd yma yn ein cymunedau ac rwyf yn falch iawn bod Heddlu Gwent yn gwneud cyflwyniadau i ysgolion fel rhan o'r ymgyrch yma i helpu plant i ddeall pa mor ddinistriol mae'n gallu bod.

"Mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel felly os ydych chi'n gwybod bod rhywun yn cario cyllell, riportiwch y mater.

Fel rhan o'r ymgyrch, mae Heddlu Gwent hefyd yn apelio ar bobl i gael gwared ar gyllyll ac arfau eraill mewn biniau amnest ledled Gwent rhwng y dyddiadau canlynol:

Dydd Llun 13 Mai - dydd Sul 19 Mai 2024

  • Canol Casnewydd: 8am - 7pm
  • Sir Fynwy: 9am - 1pm a 2pm – 4pm
  • Coed-duon: 9am - 1pm a 2pm – 4pm
  • Glynebwy: 9am - 1pm a 2pm – 4pm
  • Cwmbrân: 9am - 1pm a 2pm – 4pm.


Gellir rhoi gwybod i Heddlu Gwent bod rhywun yn cario cyllell neu arfau eraill trwy ffonio 101, ar wefan Heddlu Gwent, neu drwy gyfrwng Facebook a Twitter.

Gellir riportio'n ddienw wrth Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar y wefan.

Gall plant a phobl ifanc roi gwybodaeth yn ddienw i wasanaeth ieuenctid Crimestoppers - Fearless - ar 0800 555 111 neu ar y wefan.

Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.