Heddlu Gwent a Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu'n Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Yr wythnos hon cynhaliodd Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent ymgyrch ddathliadol i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Roedd y gyfres o negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn amlygu menywod sy'n gweithio yng Ngwent i'w wneud yn lle mwy diogel i fyw a gweithio.
Un o'r rhai a gafodd sylw yn yr ymgyrch oedd Eleri Thomas, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent. Wrth nodi'r diwrnod, dywedodd "Mae Heddlu Gwent wedi croesawu diwylliant sy'n gweithio tuag at well cydbwysedd.
“Mae mwy o swyddogion heddlu benywaidd ar y rheng flaen nac erioed o'r blaen yn awr ac, er bod gwaith i'w wneud o hyd, rwy'n hyderus fod y penderfyniad a'r ysfa am gydbwysedd yn treiddio i bob rhan o'r sefydliad, ar bob lefel."
Hefyd yn cael sylw roedd Dirprwy Brif Gwnstabl Pam Kelly a ymunodd ag Eleri mewn trafodaeth ar y pwnc 'Gyrfaoedd ac Arloeswyr!' yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd y bore yma.
Yn siarad cyn y digwyddiad, dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl, "Mae'n fraint cael fy llun ochr yn ochr â'm cydweithwyr uchel eu parch yr wythnos hon i gydnabod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2019.
“Wrth i bob un ohonom ni ymdrechu i gael byd cytbwys, mae'n anrhydedd i mi sefyll ysgwydd yn ysgwydd â menywod sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
“Mae heddiw'n gyfle i ddathlu holl fenywod y byd a'r hyn maen nhw wedi ei gyflawni, ac yn dal i’w gyflawni, bob dydd.”
I weld rhestr lawn y menywod sy'n cael sylw yn yr ymgyrch eleni ewch i http://bit.ly/GwentIWD19.