Heddlu Bach Ysgol Gynradd Penygarn yn cynnal garddwest
17eg Gorffennaf 2024
Roeddwn wrth fy modd i fod yng ngarddwest Ysgol Gynradd Penygarn. Cefais gwrdd â grŵp Heddlu Bach ac Eco-bwyllgor yr ysgol.
Roeddwn yn falch i glywed sut mae disgyblion Heddlu Bach yr ysgol wedi bod yn gweithio gyda'r gymuned, yn mynd i'r afael â phroblemau traffig a helpu i godi ymwybyddiaeth ymysg rhieni a gofalwyr.
Mae'r cynllun Heddlu Bach ar agor i blant ym mlynyddoedd 5 a 6. Mae'n rhoi cyfle iddyn nhw feithrin ymddiriedaeth a hyder gyda swyddogion. Mae dros 150 o ysgolion yn cymryd rhan yn y cynllun yng Ngwent.
Edrychaf ymlaen at ddod yn ôl yn nhymor yr hydref ar gyfer sesiwn holi ac ateb gyda'r garfan newydd o Heddlu Bach!