Heddlu Bach yn ymuno â’r Help Llaw Mawr
Cymrodd disgyblion o Ysgol Gynradd Overmonnow yn Nhrefynwy ran mewn digwyddiad casglu sbwriel i gefnogi’r Help Llaw Mawr.
Mae’r Help Llaw Mawr yn annog cymunedau i ddod at ei gilydd a nodi coroni’r Brenin trwy helpu i wneud eu mannau lleol yn lanach ac yn fwy diogel.
Casglodd disgyblion o grŵp Heddlu Bach ac eco-bwyllgor yr ysgol fagiau o sbwriel ym Mharc Sglefrio Trefynwy a’r ardaloedd o gwmpas.
Cefnogwyd y digwyddiad gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, Arglwydd Raglaw Gwent, Robert Aitken a Chyngor Sir Fynwy.
Meddai Jeff Cuthbert: “Rwy’n falch i gefnogi’r Help Llaw Mawr. Mae gwirfoddoli’n gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau, ac rwyf wrth fy modd i weld disgyblion o’r Heddlu Bach, ac eco-bwyllgor yr ysgol yn cymryd rhan yn yr ymgyrch.
“Mae ymfalchïo yn eich cymuned yn rhan annatod o ddod yn ddinesydd da ac mae hyn yn amlwg yn rôl grwpiau Heddlu Bach ledled Gwent.
“Hoffwn ddiolch i bawb a gymrodd ran a gofynnaf iddyn nhw barhau i barchu ac ymfalchïo yn eu cymuned.”
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, aelod cabinet dros newid hinsawdd a’r amgylchedd Cyngor Sir Fynwy: “Hoffwn ddiolch i’r 22 o blant bendigedig sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth yn casglu sbwriel.
“Gwnaethoch chi waith mor dda yn casglu pedwar bag mawr o sbwriel – y rhan fwyaf o’r parc sglefrio. Mae’n warthus bod y mwyafrif helaeth o’r sbwriel o gwmpas y bin – ac heb gael ei roi ynddo.
“Mae’r bobl ifanc yma’n wych, a dylent fod mor falch.”