Heddlu Bach yn lansio fideo rap diogelwch ar y ffyrdd
Mae plant ysgol o Flaenau Gwent wedi lansio fideo rap i annog disgyblion eraill a'u teuluoedd i fod yn fwy ymwybodol o ddiogelwch ar y ffyrdd.
Gweithiodd y disgyblion, sy'n aelodau o Heddlu Bach Ysgol Gynradd Blaen-y-cwm, gyda'u tîm plismona cymdogaeth a gorsaf radio leol i gynhyrchu rap 2 munud sy'n tynnu sylw at beryglon peidio â chadw'n ddiogel ar y ffyrdd.
Mae'r fideo, a gafodd ei ariannu gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, yn hyrwyddo negeseuon gan gynnwys parcio diogel ac ymwybyddiaeth o gyflymder.
Yn siarad ar ôl y dangosiad cyntaf o'u fideo, dywedodd swyddogion yr Heddlu Bach, Alfie, Tyler, Lilli a Kelsie mai'r prif reswm y gwnaethant y fideo oedd cadw plant yn ddiogel: "Rydym yn gweld rhieni'n parcio'n wael iawn y tu allan i'n hysgol trwy'r amser sy'n gwneud i ni ofni bydd rhywun yn cael eu brifo un diwrnod.
"Trwy greu'r fideo hwn, rydym am godi ymwybyddiaeth o beth allai ddigwydd pan mae pobl yn parcio'n wael, neu pan nad yw plant a rhieni'n talu sylw."
Cafodd yr Heddlu Bach gefnogaeth gan eu Swyddogion Cymorth Cymunedol Lleol Linzi Nicholls a Joanne Robbins gyda'u prosiect diweddaraf, a weithiodd gyda'r grŵp i lunio eu hymgyrch.
Dywedodd Swyddog Cymorth Cymunedol Robbins: “O'r cychwyn cyntaf, dywedodd y plant fod parcio yn yr ysgol yn achosi pryder iddyn nhw. Gwnaethom weithio gyda nhw i ddylunio a chyhoeddi tocynnau parcio ffug i rieni a oedd yn parcio'n beryglus. Yna cytunodd y grŵp eu bod am greu fideo."
Datblygodd y prosiect i fod yn fenter ar gyfer y gymuned ehangach, ac ysgrifennwyd geiriau'r rap gan Swyddog Cymorth Cymunedol Nicholls a chawsant gymorth gan yr orsaf radio leol, BGfm, i gynhyrchu'r fideo.
Dywedodd Steve Bower, Rheolwr Cynaliadwyedd BGfm: “Roeddem ni yn BGfm wrth ein bodd yn cefnogi'r plant gyda'r prosiect hwn. Arweiniodd yr Heddlu Bach y prosiect o'r dechrau i'r diwedd, gan weithio gyda ni i greu bwrdd stori'r fideo, y sain a'r ffilm derfynol.”
Ar ôl gweld y fideo gorffenedig, rhoddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert, ganmoliaeth i'r plant am eu gwaith caled: "Rwyf wrth fy modd i fod wedi cefnogi'r prosiect hwn sy'n ceisio creu amgylchedd mwy diogel a phleserus i ddisgyblion.
“Dyma neges glir gan ein plant eu bod am i chi feddwl yn ofalus am eich arferion gyrru er mwyn eu cadw nhw, a phobl eraill o'u cwmpas, yn ddiogel."
Gallwch wylio'r fideo ar dudalen YouTube Swyddfa'r Comisiynydd.