Heddlu Bach Blaenafon yn cynnal patrolau diogelwch ar y ffyrdd
20fed Tachwedd 2019
Fel rhan o Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd 2019, mae plant o Heddlu Bach Ysgol Gynradd Treftadaeth Blaenafon wedi bod yn cynnal patrolau parcio yn yr ysgol.
Mae’r Heddlu Bach yn helpu i gadw eu ffrindiau ysgol a cherddwyr eraill yn ddiogel trwy annog gyrwyr i beidio â pharcio ar linellau melyn, mewn cilfachau bysiau ac ar y cyrbau o gwmpas yr ysgol.
Maen nhw’n cael cymorth gan swyddogion cymorth cymunedol Heddlu Gwent a swyddogion gorfodi Cyngor Torfaen.