Hawl i Holi Ieuenctid yn llwyddiant
Cynhaliodd Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent ei hail sesiwn Hawl i Holi Ieuenctid yr wythnos hon.
Fe’i cynhaliwyd mewn partneriaeth â Fforwm Ieuenctid Rhanbarth Gwent ar gampws Prifysgol De Cymru, ac roedd dros 100 o bobl ifanc o bob rhan o’r ardal yn bresennol.
Holodd y bobl ifanc gyfres o gwestiynau personol a oedd yn procio’r meddwl i banel o benderfynwyr allweddol.
Roedd y panel yn cynnwys, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, Dirprwy Brif Gwnstabl, Amanda Blakeman, Dr Liz Gregory (pennaeth ar y cyd gwasanaeth seicoleg plant a theuluoedd yng Ngwent), Dr Jane Dicken (ymgynghorydd gofal iechyd rhywiol ac atgenhedlol) a Loren Henry (sylfaenydd prosiect ieuenctid Urban Circle).
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Roeddwn i wrth fy modd gyda nifer y bobl ifanc o bob rhan o ardal Gwent a ddaeth at ei gilydd ac aeddfedrwydd y cwestiynau a ofynnwyd. Mae'r gallu i glywed yr hyn sydd o bwys yn hollbwysig wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â sut yr ydym ni’n mynd i'r afael â materion fel iechyd meddwl a throseddau â chyllyll, dau beth sy’n flaenllaw ym meddyliau llawer o bobl ifanc.
“Roedd yn ddiddorol iawn clywed safbwyntiau fy nghyd-aelodau ar y panel, gan fod angen ymdrin â llawer o faterion fel iechyd meddwl drwy weithio mewn partneriaeth. Rwy'n croesawu cyfleoedd fel hyn i alluogi gwasanaethau cyhoeddus i glywed yr hyn sy'n bwysig i genedlaethau'r dyfodol.”
Daeth pobl ifanc o bob cwr i’r digwyddiad, gyda fforymau ieuenctid Cartrefi Maendy, Dyffryn a Melin yn ymuno â disgyblion o ysgolion uwchradd St Julian, St Joseph, Llanwern a Chroesyceiliog. Roedd pobl ifanc o bob un o'r pum fforwm ieuenctid a arweinir gan y cyngor, Prosiect Aspire, Mind Casnewydd a Chadetiaid Heddlu Gwent hefyd yn bresennol.
Holodd y rhai a oedd yn bresennol gwestiynau diddorol a ysgogodd drafodaethau llawn gwybodaeth ynghylch nifer o bynciau sy'n bwysig iddynt. Roedd y rhain yn cynnwys iechyd meddwl, troseddau â chyllyll, y cyngor ar ryw a pherthynas sydd ar gael mewn ysgolion, a seiberdroseddu.
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent Amanda Blakeman: “Roeddwn i wrth fy modd o weld y neuadd ddarlithio yn llawn ac yn byrlymu â brwdfrydedd. Mae cymaint o gwestiynau perthnasol am droseddau â chyllyll, cam-drin domestig, cam-fanteisio, iechyd rhywiol, gwasanaethau iechyd meddwl, cynaliadwyedd a'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Roedd yn bleser cymryd rhan a gwrando ar yr hyn sy'n bwysig i bobl ifanc.”