Haf llwyddiannus ysgol ffilim
Mae gwneuthurwyr ffilmiau'r dyfodol yn Nhredegar wedi bod yn gweithio'n galed trwy gydol yr haf yn Academi Ffilm Blaenau Gwent.
Cynhaliodd yr ysgol ffilm, sydd wedi ennill gwobrau, sesiynau ychwanegol gyda'r nos ac ar benwythnosau yn ystod y gwyliau ysgol.
Pobl ifanc oedd yn gyfrifol am ysgrifennu eu sgriptiau eu hunain, yn ogystal ag actio, ffilmio, cyfarwyddo a golygu eu ffilmiau.
Meddai'r Prif Diwtor, Kevin Phillips: "Beth sy'n wych am yr academi yw nad sut i wneud ffilmiau yn unig sy'n cael ei ddysgu yma. Mae'r bobl ifanc yn dysgu llawer o sgiliau eraill ar yr un pryd. Maen nhw'n datblygu eu hyder ac mae'n dda iawn i'w lles.
"Maen nhw wrth eu boddau yma ac mae rhai o'n pobl ifanc wedi bod gyda ni am bump neu chwe blynedd. Mae’r rhan fwyaf o'r ffilmiau maen nhw'n eu cynhyrchu yn ymwneud â negeseuon pwysig iawn hefyd."
Mae'r ysgol ffilm yn cael cymorth ariannol gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae'n wych gweld cymaint o bobl ifanc angerddol yn ymgysylltu â'r prosiect ac yn defnyddio eu hegni i wneud rhywbeth creadigol.
"Rydyn ni wedi cefnogi Academi Ffilm Blaenau Gwent yn frwd ers nifer o flynyddoedd a bydd y sgiliau mae pobl ifanc yn eu dysgu yma'n eu helpu nhw trwy gydol eu bywydau."