Gwyl Bêl-droed Newport Inclusion Cohesion Shield
Roeddwn wrth fy modd i ymuno â dros 100 o bobl ifanc o bob rhan o Gasnewydd a oedd yn cymryd rhan yng ngŵyl bêl-droed flynyddol Newport Inclusion Cohesion Shield.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Dyfodol Cadarnhaol Casnewydd Fyw a Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Cyngor Dinas Casnewydd gyda'r nod o ddod â phobl ifanc ac oedolion o bob rhan o'r ddinas at ei gilydd i chwarae pêl-droed a chwalu rhwystrau o fewn cymunedau.
Darparwyd bwyd a diod ar y diwrnod i'r bobl oedd yn cymryd rhan ac roedd crysau T, coesarnau a bagiau nwyddau ar gael i sicrhau bod gan y chwaraewyr yr hyn oedd eu hangen arnyn nhw i gymryd rhan.
Roedd chwaraewyr o Gymdeithas Cymuned Iemenïaidd Casnewydd, prosiect The Sanctuary, Prosiect Cymunedol Pobl Ifanc Casnewydd a Heddlu Gwent yn bresennol. Cyflwynwyd y darian Iau gan Reolwr Clwb Pêl-droed Sir Casnewydd, James Rowberry a John Griffiths, AS.
Mae chwaraeon yn cynnig cyfle gwych i annog cydraddoldeb. Mae chwaraewyr yn uno er mwyn cyflawni nod gyffredin, sef llwyddo mewn gweithgaredd, heb ddioddef barnu neu ragfarn oherwydd eu cefndir neu eu cymuned.
Rwyf yn falch i ariannu rhai o'r sefydliadau sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad hwn. Maen nhw'n rhoi cyfle i rai o'n hunigolion mwyaf agored i niwed a fyddent, heb gefnogaeth, mewn perygl o ddechrau ymwneud â throsedd difrifol a threfnedig.
Hoffwn ddiolch i bawb a oedd ynghlwm â'r digwyddiad.