Gwrando ar gymunedau gwledig
27ain Hydref 2023
Ymunodd fy nhîm â phartneriaid yn cynnwys Heddlu Gwent, Mind Sir Fynwy a Chyngor ar Bopeth ym Marchnad Da Byw Sir Fynwy'r wythnos yma.
Rydyn ni'n dibynnu ar ein cymunedau gwledig i gynhyrchu bwyd, a chyfleoedd ar gyfer twristiaeth a hamdden, ac i edrych ar ôl ein treftadaeth a'n mannau agored gwyrdd. Fodd bynnag, mae oriau hir ac unigedd eu gwaith yn gallu gwneud mynediad at wasanaethau'n anodd.
Mae ymweld â'r farchnad da byw yn gyfle da i ymgysylltu â'n cymunedau yng nghefn gwlad am y materion sy’n effeithio arnyn nhw, a hoffwn ddiolch i bawb a dreuliodd amser yn siarad gyda fy nhîm.