Gwrando ar ddioddefwyr
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi cynnal sesiwn ar-lein gyda phobl sydd wedi dioddef trosedd casineb, fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Drosedd Casineb.
Dywedodd: “Mae trosedd casineb yn drosedd erchyll a chymhleth ac mae'n gallu gadael dioddefwyr gyda niwed corfforol ac emosiynol am lawer o flynyddoedd.
“Ymunodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, gyda mi a chlywsom gan ddioddefwyr am y profiadau ofnadwy maen nhw wedi gorfod eu dioddef wrth iddynt fynd o gwmpas eu bywydau bob dydd.
"Trwy fy Nghynllun Heddlu a Throseddu, rwyf wedi ymroi i fynd i'r afael â throsedd casineb a gwella'r cymorth sy'n cael ei gynnig i ddioddefwyr, ond dim ond trwy wrando ar yr hyn mae dioddefwyr yn dweud wrthym ni am eu profiadau y gallwn wneud hynny.
"Roedd yn sesiwn werthfawr iawn a chawsom drafodaeth agored a gonest ar y ddwy ochr.
"Rwy'n gwybod ei bod yn gallu bod yn anodd i ddioddefwyr rannu eu straeon a hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gymryd rhan.
"Ni fydd troseddau casineb yn cael eu goddef yng Ngwent. Os ydych yn profi trosedd casineb, mae angen i ni wybod, felly riportiwch y mater i Heddlu Gwent."
Gellir riportio trosedd casineb i Heddlu Gwent drwy ffonio 101, neu drwy dudalennau Facebook a Twitter Heddlu Gwent.
Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.
Mae cymorth pwrpasol gan Swyddog Cefnogaeth Troseddau Casineb ar gael hefyd trwy ganolfan ddioddefwyr Connect Gwent ar 0300 123 2133.