Gwrando ar blant Tredegar
Parhaodd ein gweithdai Mannau Diogel yr wythnos hon gydag ymweliad ag Ysgol Gynradd Deighton yn Nhredegar.
Nod y gweithdai yw addysgu plant a phobl ifanc gan hefyd roi cyfle i fy swyddfa i, Heddlu Gwent a sefydliadau partner glywed am unrhyw faterion a allai fod yn effeithio ar y disgyblion.
Rhannodd y plant eu meddyliau, eu teimladau a'u pryderon am faterion yn eu cymunedau. Roeddwn yn falch o glywed bod y rhan fwyaf o’r plant yn teimlo'n ddiogel iawn yn eu cymunedau a'u bod yn wybodus iawn am eu hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Mae gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu gyfrifoldeb i ymgysylltu â'r cyhoedd a dyma un o'r ffyrdd y gallwn sicrhau ein bod yn galluogi plant a phobl ifanc i leisio eu barn.