Gwobrau’r Llu Heddlu Gwent 2021
Roeddwn yn falch iawn i gefnogi Gwobrau'r Llu blynyddol Heddlu Gwent yr wythnos hon.
Mae'r gwobrau yn cydnabod y swyddogion ac aelodau staff hynny sydd wedi mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol ganddynt wrth gyflawni eu dyletswydd.
Roeddwn yn falch i noddi’r Wobr Partneriaeth, a aeth i’r Gweithgor Strydoedd Saffach eleni.
Mae’r tîm wedi gweithio gyda phartneriaid yn yr awdurdod lleol a’r trydydd sector i sicrhau dros £700,000 i ddarparu mentrau i leihau trosedd yn y gymdogaeth yng Nghasnewydd a Rhymni.
Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd, ac mae pob swyddog ac aelod o staff wedi gweithio'n ddygn i sicrhau bod pobl Gwent yn derbyn gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan eu heddlu.
Ar ran trigolion Gwent, hoffwn dalu teyrnged i bob swyddog ac aelod o staff am bopeth maen nhw wedi ei wneud trwy gydol y pandemig i gadw ein cymunedau'n ddiogel.