Gwobrau Ieuenctid Hanes Pobl Dduon Cymru
Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd â phartneriaid i ddathlu Gwobrau Ieuenctid a Chymuned Hanes Pobl Dduon Cymru yn y Senedd.
Mae'r gwobrau'n dathlu cyflawniadau pobl ifanc yng Nghymru ac yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol maen nhw'n ei chael ar eu cymunedau.
Cawsant gefnogaeth gan bedwar comisiynydd heddlu a throsedd Cymru fel rhan o'u nawdd ar gyfer Hanes Pobl Dduon Cymru 365.
Cyflwynodd Comisiynydd Jane Mudd un o nifer o wobrau i bobl ifanc o gymunedau ledled Cymru. Dywedodd: “Roedd yn fraint cynrychioli comisiynwyr heddlu a throsedd Cymru a chefnogi ein partneriaid yn Hanes Pobl Dduon Cymru a Race Council Cymru yn y gwobrau blynyddol yma.
"Mae'r bobl ifanc hyn yn ysbrydoliaeth, ac roedd yn wych clywed cymaint o straeon bendigedig am y cyfraniadau maen nhw'n eu gwneud i fywyd ledled Cymru. Da iawn pawb a gafodd eu henwebu am wobr, a da iawn arbennig iawn i'r enillwyr am gyflawniad mor ardderchog."