Gwobrau hirwasanaeth Heddlu Gwent
16eg Rhagfyr 2022
Roedd hi'n fraint fawr mynychu gwobrau hirwasanaeth Heddlu Gwent yr wythnos hon.
Mae'r gwobrau hirwasanaeth yn cydnabod swyddogion a staff heddlu sydd wedi gwasanaethu yn yr heddlu am dros 20 mlynedd.
Mae plismona’n swydd sy'n gofyn llawer, yn gorfforol ac yn feddyliol. Yn aml, mae hyn yn golygu bod swyddogion yn rhoi eu hunain mewn perygl personol ac yn ymdrin â sefyllfaoedd na fydd y rhan fwyaf o bobl byth yn gorfod dod ar eu traws yn ystod eu bywydau, a diolch am hynny.
Hoffwn ddiolch i'r holl swyddogion a staff sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith caled a'u hymroddiad, ac am amddiffyn a gwasanaethu cymunedau Gwent am y 20 mlynedd diwethaf.