Gwobrau Heddlu Gwent 2024

28ain Tachwedd 2024

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi ymuno â swyddogion a staff ar gyfer seremoni flynyddol Gwobrau Heddlu Gwent.

Mae'r gwobrau'n cydnabod y swyddogion a staff heddlu hynny sydd wedi mynd yr ail filltir a thu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol ganddyn nhw i amddiffyn a thawelu meddwl pobl Gwent. Mae'r gwobrau'n cydnabod aelodau o'r cyhoedd hefyd sydd wedi cyflawni gweithredoedd dewr wrth amddiffyn bywydau pobl eraill.

Cyflwynodd y Comisiynydd Wobr Partneriaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i swyddogion cefnogi cymuned Clare Montgomery-Brown a Mark Watts am eu gwaith rhagweithiol gyda Safonau Masnachu i fynd i'r afael â phobl sy’n gwerthu fêps yn anghyfreithlon. Yn sgil gwybodaeth a gasglwyd gan y swyddogion, cafodd fêps a thybaco anghyfreithlon gwerth bron i ddwy filiwn o bunnau eu cymryd oddi ar y strydoedd a chaewyd nifer o fusnesau a oedd yn gwerthu eitemau anghyfreithlon.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Roedd yn bleser go iawn gael gwahoddiad gan y Prif Gwnstabl Dros Dro i fod yn rhan o'r achlysur yma a dathlu rhywfaint o'r gwaith heddlu gwych sydd wedi achub bywydau a gwneud ein cymunedau'n llefydd diogel i fyw ynddynt.

“Mae swyddogion a staff yr heddlu'n gweithio'n ddiwyd dan bwysau aruthrol ac amgylchiadau arbennig o anodd i wasanaethu ein cymunedau, yn aml ar berygl iddyn nhw eu hunain, ac mae'n beth da ein bod yn cydnabod hyn.

"Roedd yn wych gallu diolch i aelodau'r cyhoedd hefyd am rai gweithredoedd anhygoel o ddewr, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am ymyrryd a helpu pobl eraill pan oedden nhw angen hynny fwyaf."