Gwneuthurwyr Penderfyniadau Allweddol yn Wynebu Sesiwn 'Hawl i Holi' Gan Bobl Ifanc
Cafodd gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol eu holi'n drylwyr gan bobl ifanc neithiwr yn sesiwn 'Hawl i Holi Ieuenctid Gwent'.
Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd gan aelodau o Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent ac a noddwyd gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (OPPC), yn gyfle i bobl ifanc o bob cwr o'r sir ofyn cwestiynau am bynciau sy'n bwysig iddyn nhw.
Roedd rhai o'r pynciau a drafodwyd ar y noson yn cynnwys troseddau'n ymwneud â chyllyll, iechyd meddwl, ymddygiad gwrthgymdeithasol a digartrefedd.
Cyflwynwyr y noson oedd Maisey, Charlie a Lauren, sydd oll yn aelodau o'r Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol ac yn Aelodau o'r Senedd Ieuenctid ar gyfer ardaloedd eu hawdurdod lleol.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, soniodd Aelod o'r Senedd Ieuenctid ar gyfer Caerffili am lwyddiant y noson, "Fel aelodau o'r Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol a'r Senedd Ieuenctid, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod pobl yn clywed lleisiau pobl ifanc ac yn gwrando arnynt.
"Mae nifer o faterion yn poeni pobl ifanc ledled Gwent, ond mae heno wedi tawelu ein meddyliau bod y rhai hynny a all wneud gwahaniaeth yn gwrando arnom ac am ein helpu."
Un o'r rhai ar y panel cwestiynau oedd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert, a dywedodd, "Roedd yn hyfryd gweld cymaint o bobl ifanc yma heno, mae safon y cwestiynau wedi bod yn wych.
"Rwyf wedi credu'n gryf erioed y dylem wrando ar farn pobl ifanc, ac yn credu eu bod yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn addas at y diben yn y dyfodol.
"Hoffwn ddiolch i'r holl bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o'r digwyddiad heno."
Roedd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Julian Williams, Cyfarwyddwr Rhanbarthol, Dr Dave Williams, a Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol, Dr Liz Gregory yn cadw cwmni i Mr Cuthbert ar y panel.
Gellir gweld adroddiad llawn ar y digwyddiad https://youtu.be/9DBEl0nRjrc.