Gwirfoddolwyr Atal Trosedd
Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert, wedi estyn croeso swyddogol i bump o wirfoddolwyr cefnogi'r heddlu a fydd yn helpu’r llu i atal trosedd.
Mae'r gwirfoddolwyr yn gweithio gyda swyddogion a staff o ganolfan datrys problemau Heddlu Gwent, yn darparu cyngor atal trosedd a chymorth mewn digwyddiadau yn y gymuned.
Mae'r grŵp o wirfoddolwyr wedi bod allan mewn cymunedau ledled Gwent yn barod yn helpu gydag ymgyrchoedd atal trosedd, gan gynnwys rhoi cyngor i siopwyr am beryglon gadael eitemau gwerthfawr yn y golwg mewn ceir wedi parcio, a marcio beiciau modur gyda marciwr fforensig Smartwater.
Meddai Prif Gwnstabl Pam Kelly: "Mae'n wych croesawu ein gwirfoddolwyr atal trosedd newydd. Rhaid canmol eu brwdfrydedd a'u parodrwydd i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.
“Rwyf yn eithriadol o ddiolchgar i bawb sy'n gwirfoddoli gyda ni a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cymorth parhaol.”
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Rwyf wrth fy modd i groesawu'r gwirfoddolwyr atal trosedd newydd hyn i Heddlu Gwent. Mae pob awr o wirfoddoli yn gwneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymunedau a hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddynt yn eu rolau newydd."
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfleoedd gwirfoddoli, ewch i wefan Heddlu Gwent.