Gwersi bocsio'n taro'r nod ymysg plant Maendy
Mae plant o Faendy yng Nghasnewydd wedi treulio prynhawn yn ymarfer eu sgiliau bocsio gyda'r enillydd medal aur Sean McGoldrick.
Cynhaliwyd y sesiwn gan Dyfodol Cadarnhaol Casnewydd Fyw sy'n cael ei ariannu gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent i ddarparu chwaraeon a gweithgareddau cadarnhaol i blant sydd mewn perygl o ddechrau ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ers i Lywodraeth Cymru lacio'r mesurau cadw pellter cymdeithasol i blant dan 11 oed, mae Dyfodol Cadarnhaol wedi gallu ail ddechrau rhai gweithgareddau wedi'u targedu gyda grwpiau bach mewn ardaloedd sy'n cael blaenoriaeth.
Treuliodd y plant amser yn ymarfer eu sgiliau pêl-droed a phêl-fasged hefyd.
Dywedodd Martine Smith, athro yn Ysgol Gynradd Maendy: “Rydym wedi bod yn cadw mewn cysylltiad gyda' n plant yn ystod y cyfyngiadau symud ac rydym yn gwybod eu bod yn colli eu ffrindiau a bod llawer ohonynt wedi bod yn treulio llawer iawn o amser dan do.
"Mae'r sesiwn hwn wedi bod yn wych i'r plant ac mae wedi bod yn seibiant iddynt. Mae bod yn yr awyr agored, yn gwneud rhywfaint o ymarfer corff gyda'u ffrindiau yn dda iawn ar gyfer eu hiechyd corfforol a meddyliol."
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Mae Dyfodol Cadarnhaol Casnewydd Fyw yn rhoi cyfle i'r bobl ifanc sydd ei angen fwyaf sianelu eu hegni mewn ffyrdd cadarnhaol a chynhyrchiol.
"Mae'n helpu i lywio pobl ifanc oddi wrth y posibilrwydd o ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu droseddu ac mae'n eu helpu nhw i gadw'n iach wrth gael hwyl gyda'u ffrindiau."
"Mae'n wych gweld sesiynau'n cael eu cynnal eto ar ôl cymaint o amser."