Gwent yn ymuno ag ymgyrch haf y DU ar droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol trefi

14eg Gorffennaf 2025

Mae'r Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper wedi lansio ymgyrch ledled y wlad ar droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol trefi fel rhan o Gynllun Newid Llywodraeth y DU.

Mae Heddlu Gwent a chynghorau lleol, gyda chefnogaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, wedi ymuno i gynyddu patrolau'r heddlu a gweithredu lleol mewn ardaloedd lle ceir problemau yn ystod misoedd yr haf.

Mae'r Comisiynydd Mudd hefyd wedi sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol i gyflawni prosiectau diogelwch cymunedol.

Dywedodd: "Dylai trigolion deimlo'n ddiogel yn eu cymunedau a gallu mwynhau treulio eu hamser yng nghanol trefi yn siopa a chymdeithasu dros yr haf heb fod ofn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Gan fod yr heddlu, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn gweithio'n agosach gyda'i gilydd i ganolbwyntio ar ardaloedd lle ceir problemau, gallwn anfon neges glir na fydd yr ymddygiad hwn yn cael ei oddef yn ein cymunedau a sicrhau bod ein trigolion yn gallu mwynhau haf mwy diogel.”

Bydd gan dîm gweithredu cymunedol newydd Heddlu Gwent ran hanfodol wrth gyflawni'r fenter. Mae'r tîm yn cynnwys 16 CH, 10 SCCH, ac mae'n cael ei arwain gan ddau ringyll tîm ac arolygydd ymroddedig. Mae'n galluogi Heddlu Gwent i roi mwy o swyddogion ar lawr gwlad yn yr ardaloedd sydd eu hangen fwyaf.

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Dros Dro Jason White, Pennaeth Plismona Cymdogaeth Heddlu Gwent, ac arweinydd ymddygiad gwrthgymdeithasol y llu: "Mae mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth i Heddlu Gwent. Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r anhrefn cysylltiedig yn gwbl annerbyniol. Mae'n cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd ein cymunedau ac ni fydd yn cael ei oddef.

"Rhwng Ebrill 2024 a diwedd mis Mawrth 2025, gwnaethom gynnal 7,000 awr ychwanegol o batrolau mewn ardaloedd lle ceir problemau ledled Gwent, a arweiniodd at ostyngiad cyffredinol mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd ein gweithgarwch gweithredol yn cynyddu drwy gydol yr haf ac, fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i’w daclo, bydd ein swyddogion yn parhau i wneud gwaith partneriaeth gyda chynghorau a sefydliadau ac asiantaethau eraill i sicrhau bod yr holl fusnesau a’r trigolion yn teimlo'n ddiogel.

"Pan ddaw i ymddygiad gwrthgymdeithasol, rydym yn cael ein harwain nid yn unig gan wybodaeth a gasglwyd trwy ymchwiliadau a phatrolau, ond gan wybodaeth y mae'r cyhoedd wedi'i darparu trwy roi gwybod i ni. Dyna pam mae'n bwysig iawn bod pobl yr effeithir arnynt gan y materion hyn yn dod i siarad gyda ni.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper: "Strydoedd mawr a chanol trefi yw calon ein cymunedau. Mae gan drigolion a busnesau'r hawl i deimlo'n ddiogel yn eu trefi. Ond gadawodd y llywodraeth ddiwethaf ymchwydd mewn dwyn o siopau, troseddau stryd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi gadael gormod o ganol trefi yn teimlo fel bod pobl wedi anghofio amdanynt. 

“Mae'n bryd newid hyn, dyna pam rydw i wedi galw ar heddluoedd a chynghorau fel ei gilydd i weithio gyda'i gilydd i gyflwyno ymgyrch ddwys dros yr haf ar droseddau canol trefi i anfon neges glir i'r bobl hynny sy'n dod â diflastod i'n trefi na fydd eu troseddau bellach yn mynd heb eu cosbi.”