Gwent i dderbyn £1miliwn i dargedu troseddwyr cam-drin domestig
Bydd Gwent yn derbyn dros £1miliwn gan y Swyddfa Gartref i dargedu troseddwyr cam-drin domestig.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gomisiynu gwasanaethau arbenigol i weithio gyda throseddwyr sydd wedi derbyn rhybuddiad dargyfeiriol am eu trosedd, er mwyn ymyrryd yn gynnar cyn i'w hymddygiad a risg i'r dioddefwyr ddwysau.
Bydd hefyd yn cefnogi dull amlasiantaeth o leihau bygythiad a niwed gan droseddwyr risg uchel.
Mae'r Swyddfa Gartref wedi rhoi £39 miliwn i brosiectau ledled Cymru a Lloegr i amddiffyn dioddefwyr rhag cam-drin domestig a stelcio.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Rwyf yn croesawu'r cyllid gan y Swyddfa Gartref.
"Rydym yn cymryd cam-drin domestig o ddifrif a dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gwella'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig i ddioddefwyr y drosedd hon yn sylweddol.
"Serch hynny, i wneud gwahaniaeth go iawn mae'n rhaid i ni edrych ar ffyrdd i leihau troseddu yn y lle cyntaf. Un o'r ffyrdd y gallwn wneud hyn yw trwy weithio gyda throseddwyr i herio eu hymddygiad a lleihau'r perygl i'w partneriaid a'u teuluoedd. Bydd y cyllid yn helpu'r gwaith hwn ac mae'n golygu bod gennym ni ddull ychwanegol y gallwn ei ddefnyddio i geisio mynd i'r afael ag ymddygiad troseddwyr cyn iddo ddwysau.