Gwell gofalu na difaru ar noson tân gwyllt eleni

2il Tachwedd 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yn cefnogi galwad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i drigolion gadw'n ddiogel ar noson tân gwyllt.

Gan fod nifer o ddigwyddiadau swyddogol wedi’u canslo eleni, mae'r gwasanaeth tân yn disgwyl noson llawer prysurach wrth i drigolion ddathlu yn eu gerddi eu hunain.

Y llynedd bu'n rhaid i'r gwasanaeth ymateb i 531 o danau a ddechreuwyd yn fwriadol yn y cyfnod hyd at 11 Tachwedd.

Mae gwybodaeth am sut i ddathlu noson tân gwyllt yn ddiogel ar gael ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Mae'r gwasanaethau brys eisoes dan bwysau mawr ac, yn anffodus, gall cyfuniad o ymddygiad gwrthgymdeithasol bwriadol, a phethau’n mynd o chwith mewn digwyddiadau coelcerth preifat, roi straen sylweddol ar adnoddau.

"Gall camddefnyddio tân gwyllt a choelcerthi atal y gwasanaethau brys rhag cyrraedd galwadau a allai achub bywyd. Efallai mai chi, eich ffrindiau neu aelod o'ch teulu fyddai mewn angen.

"Dathlwch noson tân gwyllt yn ddiogel eleni a, phryd bynnag fo’n bosibl, dewiswch ddigwyddiad sydd wedi'i drefnu'n briodol."