Gwasanaethau arbenigol ar gael i bobl sy'n niweidio eraill trwy gam-drin domestig
Mae gwasanaethau arbenigol ar gael i bobl yng Ngwent sydd wedi cyflawni cam-drin domestig neu sy'n pryderu am yr effaith mae eu hymddygiad yn ei gael ar eu partneriaid neu eu teuluoedd.
Gall gwasanaethau Phoenix Domestic Abuse weithio gydag unrhyw un sy'n cyfaddef i batrwm o ymddygiad tuag at eu partner sy'n rheoli, gorfodol, bygythiol, cam-driniol neu'n dreisgar. Gall hyn gynnwys cam-drin sy'n seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol neu emosiynol.
Bydd cynghorwyr arbenigol yn gweithio gydag unigolion 11-18 oed, neu 18 oed a hŷn, i ddeall a rhoi sylw i achosion eu hymddygiad, gyda'r nod o leihau'r risg o ymddygiad camdriniol pellach yn y tymor hir. Cynigir cefnogaeth i deuluoedd, partneriaid a chyn bartneriaid hefyd.
Dywedodd Cath Hill o Phoenix: "Rydym yn gwybod bod pobl yn pryderu'n aml am effaith eu hymddygiad camdriniol ar eu partneriaid a'u teuluoedd, ond mae'r euogrwydd hwnnw, a chywilydd, yn eu rhwystro rhag gofyn am gymorth.
“Mae'r bobl sydd wedi gofyn am gymorth gennym ni wedi dysgu eu bod yn gallu gweithio trwy broblemau mewn amgylchedd diogel a chefnogol, gan wella eu perthynas mewn llawer o achosion a'u helpu nhw i deimlo'n well fel unigolyn, partner a rhiant.
Mae'r fenter yn cael cefnogaeth gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Heddlu Gwent, VAWDASV (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol) Gwent a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Rydym yn ystyried cam-drin domestig yn ddifrifol iawn ac wedi buddsoddi'n sylweddol mewn gwasanaethau i gefnogi dioddefwyr. Fodd bynnag, er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn mae'n rhaid i ni edrych ar ffyrdd i leihau troseddu yn y lle cyntaf ac un o'r ffyrdd y gallwn wneud hyn yw trwy weithio gyda'r rhai sydd wedi cymryd y cam cyntaf ac wedi cyfaddef bod angen newid eu hymddygiad.
"Os ydych chi'n rhywun sy'n sylweddoli bod y ffordd rydych yn ymddwyn yn niweidio eich partner neu eich teulu, mae help ar gael a gofynnaf yn daer arnoch i gysylltu er mwyn cael cymorth."
Dywedodd Ditectif Arolygydd Chris Back:
“Mae mynd i’r afael â cham-drin domestig ac amddiffyn dioddefwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Heddlu Gwent. Gofynnaf ar unrhyw un sy’n dioddef cam-drin domestig i’w riportio wrth yr heddlu. Byddwn yna i chi pan fyddwch yn gofyn am help ac yn sicrhau eich bod yn ddiogel.
“Rydym wedi ymroi i weithio gyda’n partneriaid i gadw pawb yng Ngwent yn ddiogel. Trwy gydweithio gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i aelodau mwyaf bregus ein cymuned a rhoi cefnogaeth i’r bobl sydd ei angen.”
I gael cymorth, cysylltwch â chynghorydd ar 01495 291202 neu e-bostiwch info@phoenixdas.co.uk