Gwasanaeth newydd i riportio twyll wedi’i lansio i ymdrin â seiberdroseddu a thwyll
4ydd Rhagfyr 2025
Mae Heddlu Dinas Llundain wedi lansio Report Fraud, gwasanaeth newydd ar draws Prydain i ymdrin â seiberdroseddu a thwyll.
Mae Report Fraud yn disodli Action Fraud a’r Swyddfa Cudd-wybodaeth Twyll Genedlaethol, gan gynnig dull symlach a mwy effeithiol o riportio ac ymdrin â’r troseddau hyn.
Mae’r gwasanaeth newydd yn cynnwys tair prif elfen:
- Canolfan gyswllt a riportio Report Fraud. Gall dioddefwyr riportio digwyddiadau o seiberdroseddu a thwyll yn gyflym ac yn hawdd.
- Gwasanaeth dadansoddi trosedd cenedlaethol Report Fraud. System newydd sy’n galluogi pob heddlu i gyrchu dadansoddiad data estynedig.
- Gwasanaeth dioddefwyr Report Fraud. Rhoi cymorth arbenigol pwrpasol i ddioddefwyr.
I gael rhagor o wybodaeth ac i riportio twyll:
Ewch i: www.reportfraud.police.uk
Ffoniwch: 0300 123 2040