Gwasanaeth galw heibio newydd i ddioddefwyr cam-drin domestig ym Mlaenau Gwent

15fed Medi 2020

Mae gwasanaeth galw heibio newydd i ddioddefwyr cam-drin domestig wedi agor yn Sefydliad Glyn Ebwy (EVI).

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys cymorth wyneb yn wyneb mewn argyfwng sydd ar gael trwy apwyntiad yn unig, oherwydd cyfyngiadau COVID, a llinell gymorth i unrhyw un sy'n profi cam-drin domestig ym Mlaenau Gwent. Mae hefyd yn cynnig man diogel a chroesawgar i bobl sy'n dod i dderbyn cwnsela trais rhywiol Horizon a gwasanaethau cynghorydd trais rhywiol annibynnol.

Mae'r gwasanaeth newydd, sy'n cael ei ariannu gan Comic Relief, wedi cael ei sefydlu oherwydd y cynnydd yn y galw am gymorth cam-drin domestig yn ystod y pandemig Coronafeirws.

Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn sefydliad ar draws Gwent gyfan ac mae staff sy'n ymdrin â galwadau a phobl yn 'galw heibio' yn eu swyddfeydd yn Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen wedi gweld cynnydd yn nifrifoldeb y gamdriniaeth sy'n cael ei riportio a chymhlethdod sefyllfaoedd unigolion.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert:

"Rwyf yn falch bod gan drigolion Blaenau Gwent rywle diogel i gael y cymorth a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Mae'r pandemig wedi gwaethygu sefyllfaoedd i ddioddefwyr cam-drin domestig. Mae'r cyfyngiadau symud wedi bod yn anodd i lawer o bobl ond mae wedi bod hyd yn oed yn fwy anodd i deuluoedd sy'n byw dan ddwylo rhywun sy'n eu cam-drin. Rhaid i ni beidio â goddef camdriniaeth.

“Mae fy swyddfa'n rhoi cymorth i sefydliadau sy'n helpu a chefnogi dioddefwyr trais domestig, ac rwy'n deall pa mor anodd yw hi i dorri'r cylch o gam-drin. Gofynnaf yn daer ar unrhyw un sy'n profi cam-drin emosiynol neu gorfforol i ffonio'r llinell gymorth, trefnu apwyntiad neu ffonio llinell gymorth Byw Heb Ofn, neu i ffonio 999 os ydynt mewn perygl dybryd."

Dywedodd Suzanne Dennehy, Rheolwr Ardal Blaenau Gwent Cymorth i Fenywod Cyfannol: “Fel sefydliad rydym yn addasu ein gwasanaethau'n barhaus i ddiwallu anghenion oedolion a phlant sydd angen cymorth. Rydym mor falch ein bod yn gallu cynnig cymorth galw heibio ac ar y ffôn yn awr, yn ogystal â'n gwasanaethau cam-drin domestig presennol ym Mlaenau Gwent, diolch i Comic Relief. Mae EVI yn cynnig cymaint i ni, o ran darparu gwasanaeth a bod yn fwy hygyrch, ac fel canolfan amlasiantaeth mae'n cyd-fynd â'n hethos ni: Rydym yn gryfach gyda'n gilydd!"

Am ragor o wybodaeth am Gymorth i Fenywod Cyfannol, gan gynnwys amseroedd agor presennol a manylion cyswllt i drefnu apwyntiad, ewch i: https://cyfannol.org.uk/contact 

Llinell gymorth Byw Heb Ofn: Mae gov.wales/live-fear-free yn cynnig cyngor a chefnogaeth am ddim i bawb sy'n byw yng Nghymru.