Gwasanaeth cwnsela newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio yn Nhorfaen
Mae gwasanaeth cwnsela newydd i blant a phobl ifanc wedi cael ei lansio yn Nhorfaen.
Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent sydd wedi ariannu Xcelerate Youth, a fydd yn cynnig mynediad am ddim i bobl ifanc at gwnselydd profiadol ac ymroddedig, heb orfod aros i gael eu hanfon gan feddyg.
Bydd y prosiect yn gweithio gyda phobl ifanc ar draws Torfaen i roi sylw i achosion cyffredin straen, pryder ac iselder.
Kathy Jones yw arweinydd y prosiect ac mae'n gwnselydd cofrestredig gyda dros 20 mlynedd o brofiad.
Dywedodd: “Dros y 20 mlynedd diwethaf rwyf wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau cwnsela i bobl ifanc i fynd i'r afael â phroblemau megis straen, pryder ac iselder.
“Yn anffodus, oherwydd amseroedd aros ar hyn o bryd, yn aml mae'n rhaid i bobl ifanc aros tua chwech i naw mis cyn gallu mynd at y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, oni bai eu bod yn talu'n breifat ac mae llawer ohonyn nhw nad ydyn nhw'n gallu fforddio gwneud hynny. Rwyf yn cynnig gwasanaeth cwnsela pwrpasol a chefnogol i bobl ifanc yn Nhorfaen, sydd am ddim ac y gallant fynd ato o fewn diwrnodau.
“Yn aml, y problemau hyn sydd wrth wraidd trosedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnydd sylweddau ymysg pobl ifanc, a thrwy weithio gyda phobl ifanc mewn amgylchedd diogel a chefnogol gallwn roi sylw i'r problemau hyn gyda'n gilydd a'u galluogi nhw i oresgyn rhwystrau a chyflawni eu potensial.
“Rwyf yn ddiolchgar i Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent am gefnogi'r prosiect hwn ac rwy'n gwybod y gall wneud gwahaniaeth go iawn yn yr ardal leol.”
Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent: “Mae'r prosiect hwn yn rhoi sylw i’r angen gwirioneddol i ddarparu cymorth cwnsela pwrpasol i'r bobl ifanc hynny sydd ei angen yn daer.
“Bydd yn helpu i gefnogi rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymuned a thrwy roi sylw i rai o achosion craidd trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol rydym yn helpu i greu amgylchedd mwy diogel i bawb hefyd.”
I anfon rhywun at Xcelerate, cysylltwch â Kathy Jones trwy kathyjones280264@hotmail.com / 07935565614.