Gwarchodwch eich busnesau rhag ymosodiadau seiber

10fed Tachwedd 2020

Mae busnesau yng Ngwent yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer cynllun Larwm Seiber yr Heddlu i helpu i warchod eu rhwydweithiau rhag ymosodiadau seiber.

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan y llywodraeth ac mae’n monitro bygythiadau seiber bron mewn amser real, gan hysbysu busnesau'n rheolaidd am unrhyw wendidau o fewn y sefydliad.

Bydd yn helpu’r heddlu i adnabod tueddiadau cenedlaethol mewn seiberdrosedd ledled y DU.

Yn bwysig, nid yw'n casglu unrhyw ddata neu wybodaeth bersonol gan y busnes ac mae'r larwm yn cydymffurfio'n llwyr â GDPR.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae troseddwyr seiber yn esblygu a rhaid i fusnesau sicrhau eu bod yn ymwybodol bob amser o’r wybodaeth a’r cyngor diogelwch diweddaraf.

“Mae Larwm Seiber yr Heddlu’n offeryn defnyddiol iawn yn y frwydr yn erbyn seiberdrosedd a hoffwn annog busnesau yng Ngwent i gofrestru ac amddiffyn eu hunain yn erbyn y bygythiad cynyddol hwn.”

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer Larwm Seiber yr Heddlu, e-bostiwch Tarian-RCCU@south-wales.pnn.police.uk gan roi ‘Cyber Alarm’ fel pwnc.

Rhowch enw, cyfeiriad a phwynt cyswllt eich sefydliad hefyd.

Dywedodd Ditectif Uwch-arolygydd Nick Wilkie, arweinydd seiberdrosedd y llu: “Mae ymosodiadau seiber yn fygythiad real iawn i fusnesau ac mae’n bwysig bod pawb ohonom yn cofio cadw’n ddiogel tra byddwn ar-lein. Mae’r fenter hon yn gyfle gwych i fusnesau yng Ngwent wella eu seiberddiogelwch trwy dderbyn hysbysiadau rheolaidd am unrhyw weithgarwch seiber maleisus.

“Am ragor o wybodaeth am sut i gadw’n ddiogel ar-lein, gallwch ddilyn Tîm Seiberdrosedd Heddlu Gwent @GPCyberCrime ar Twitter. Gofynnwn i unrhyw un sydd wedi dioddef twyll ar-lein i’w riportio i ni ar 101 neu i Action Fraud ar 0300 123 2040.”