Gwarchodwch eich beic
13eg Ebrill 2022
Yr wythnos hon ymunodd fy nhîm â swyddogion Dangos y Drws i Drosedd Heddlu Gwent yng ngorsaf drenau Casnewydd i gynnig marcio fforensig am ddim i feicwyr.
Mae beiciau ac e-feiciau yn cael eu targedu gan ladron yn aml a thrwy eu marcio'n fforensig mae Heddlu Gwent yn eu gwneud yn llai atyniadol i ladron ac yn tarfu ar y gadwyn gyflenwi droseddol.
Fy mlaenoriaeth i yw cadw cymdogaethau'n ddiogel ac mae'r ymgyrch Dangos y Drws i Drosedd yn mynd i'r afael â throsedd meddiangar - lle mae'r troseddwr yn elwa'n uniongyrchol ar y drosedd - yn ein cymunedau. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Heddlu Gwent.