Gwaith wedi dechrau ar orsaf heddlu newydd yn Y Fenni
Mae gwaith wedi dechrau ar orsaf heddlu newydd sbon yn Y Fenni yr wythnos yma.
Mae ei lleoliad ar yr A465 yn Llan-ffwyst yn golygu y gall tîm cymdogaeth Heddlu Gwent fynd ar batrolau cerdded yn hawdd yng nghanol y dref a bydd gan geir sy'n ymateb i alwadau fynediad da at y rhwydwaith ffyrdd lleol ar gyfer galwadau brys.
Bydd Heddlu Gwent yn cadw ei wasanaeth desg flaen i gwsmeriaid yn Neuadd y Dref Y Fenni sy'n hawdd i bobl ei gyrraedd.
Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: “Hoffwn ddiolch i'n swyddogion am gynnal lefel mor uchel o wasanaeth i'r gymuned wrth i ni ymchwilio i opsiynau ar gyfer safle modern a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae cyrraedd y cam lle gallwn wireddu ein hymrwymiad i'r gymuned a'n timau plismona yn newyddion gwych i bawb.”
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Rydym wedi ymroi i ddarparu safle parhaol i Heddlu Gwent yn Y Fenni ac rwyf yn ddiolchgar i drigolion lleol a'n timau plismona am weithio gyda ni wrth i ni ddod o hyd i'r safle cywir ar gyfer y dyfodol.
“Mae llawer o amser ac ymdrech wedi arwain at sicrhau'r safle hwn a datblygu cynlluniau newydd ar gyfer yr orsaf newydd yma. Rwy'n gobeithio y bydd dechrau'r gwaith yn dangos i'n cymunedau ein bod wedi bod yn gwrando, ein bod wedi cymryd eich pryderon o ddifrif a'n bod yn cyflawni yn unol â'n hymrwymiad yn awr.”
Gall aelodau'r cyhoedd sydd eisiau siarad wyneb yn wyneb â Heddlu Gwent barhau i ddefnyddio'r gwasanaeth desg flaen i gwsmeriaid yn Neuadd y Dref yng nghanol Y Fenni, neu gallant gysylltu â swyddogion lleol ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy ffonio 101.