Gwaith partner yn rhoi hwb i ddiogelwch yng nghanol y ddinas yn y gaeaf
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi gweithio gyda'r heddlu, y cyngor lleol a'r gymuned fusnes i roi hwb i ddiogelwch yng nghanol dinas Casnewydd y gaeaf yma.
Trwy gydol mis Rhagfyr a mis Ionawr, mae Heddlu Gwent a Chyngor Dinas Casnewydd wedi cynyddu patrolau amlwg yng nghanol y ddinas i ymdrin â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Maen nhw wedi gweithio'n agosach gyda busnesau hefyd i roi sylw i achosion cynyddol o siopladrad a dwyn.
Mae'r gwaith partner yn rhan o ymgyrch Gaeaf o Weithredu'r Swyddfa Gartref ac mae'n adeiladu ar yr ymgyrch Strydoedd Saffach yr Haf, a arweiniodd at fwy na 16,000 arést a dirwyon ledled Prydain am droseddau fel siopladrad ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae Rhagfyr i Ionawr yn gyfnod prysur iawn yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd, ac mae'n hollbwysig ein bod ni'n gweithio gyda phartneriaid i amddiffyn busnesau a'u staff, gan gadw ein preswylwyr yn ddiogel ar yr un pryd.
"Pan mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio'n agosach gyda'i gilydd i ganolbwyntio ar ardaloedd sy'n profi problemau, gallwn anfon neges glir na fydd yr ymddygiad hwn yn cael ei oddef yn ein cymunedau."
Mae Comisiynydd Mudd wedi buddsoddi mwy na £6,000 er mwyn cael mwy o swyddogion gorfodi ar batrôl yn y gymuned a Llysgenhadon y Nos ychwanegol i helpu i gadw pobl sy'n mwynhau economi'r nos Casnewydd yn ddiogel.
Mae Llysgenhadon y Nos ar ddyletswydd o 8pm tan 4am bod dydd Gwener a Sadwrn, ac maen nhw'n bresenoldeb amlwg yng nghanol y ddinas, yn cynnig tawelwch meddwl a chyngor, gan ganolbwyntio ar ddiogelwch menywod a merched.
Meddai Arweinydd y Cyngor Dimitri Batrouni: "Rydym yn gweld mwy a mwy o bobl yn dod i mewn i ganol y ddinas ac rydym eisiau gwneud yn siŵr bod pob un ohonynt yn cael amser da ac yn ddiogel, yn arbennig yn y nos. Mae'r patrolau ychwanegol wedi rhoi tawelwch meddwl i'r rheini sydd eisiau mwynhau yn ein lleoliadau nos ac wedi rhoi rhybudd i eraill y byddwn yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac amhriodol yn gyflym.
"Mae hefyd yn beth da bod gwaith wedi cael ei wneud gyda busnesau lleol i wasgu'n dynn ar siopladrad a dwyn. Dyw'r rhain ddim yn droseddau heb ddioddefwyr, nac yn droseddau bach. Maen nhw'n gallu cael effaith sylweddol ar fywoliaeth a lles perchnogion a'u gweithwyr."
Yn rhan o ymgyrch y gaeaf, mae Heddlu Gwent yn annog preswylwyr i gofrestru ar gyfer Materion Cymdogaeth, platfform newydd sy'n galluogi pobl i dderbyn newyddion am faterion yn eu hardal nhw a rhannu gwybodaeth gyda'r heddlu.
Dywedodd Rhingyll Paul Turner, o dîm plismona cymdogaeth Canol Casnewydd: "Rwyf eisiau rhoi sicrwydd i bob preswylydd, busnes, staff ac ymwelydd ein bod ni'n gweithio gyda'n partneriaid i wneud bywyd yng nghanol dinas Casnewydd yn well i bawb.
"Mae Ymgyrch Lockwood, menter gan y Swyddfa Gartref i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd yn canolbwyntio ar bedair ardal sy'n peri problem yng nghanol dinas Casnewydd.
"Yn ôl ein ffigyrau diweddaraf mae nifer y byrgleriaethau masnachol a riportiwyd yng nghanol y ddinas wedi gostwng 18.3% yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol hyd yma o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac mae adroddiadau am droseddau trais gydag anaf wedi gostwng 9.5% yn ystod yr un cyfnod.
"Rydym wedi ymroi o hyd i weithio'n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd i ymdrin ag yfed ar y stryd a phryderon eraill, fel pobl sy'n defnyddio sgwteri trydan yn anghyfreithlon. Rydym yn gwneud hyn trwy orchmynion diogelu mannau agored cyhoeddus yr awdurdod lleol, a deiliaid trwyddedau yng Nghynllun Gwarchod Tafarndai Canol Dinas Casnewydd, yn rhan o Casnewydd Fwy Diogel, i gefnogi'r economi nos.
“Os gwelwch chi unrhyw weithgarwch anarferol neu ymddygiad troseddol yng nghanol dinas Casnewydd, rhowch wybod i ni ar ein gwefan, ffoniwch ni ar 101 neu anfonwch neges atom ni ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol Facebook neu X. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng."