Grŵp anabledd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o drosedd casineb
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda grŵp cyfeillgarwch anabledd lleol My Mates ac yn siarad gyda nhw am eu dealltwriaeth a'u profiadau o drosedd casineb.
Cyfrannodd y grŵp at weithdy gyda Swyddfa'r Comisiynydd, Heddlu Gwent a Mencap Cymru i drafod yr effaith mae trosedd casineb wedi ei gael ar eu bywydau. Gwnaethant gynnig sylwadau ar ddeunyddiau Hawdd eu Darllen hefyd sy'n cael eu creu i helpu pobl gydag anableddau i ddeall sut i riportio digwyddiad a cheisio cefnogaeth.
Cynhaliwyd y sesiwn yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Drosedd Casineb.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Ni fydd unrhyw fath o drosedd casineb yn cael ei goddef yng Ngwent. Gall fod yn ddigwyddiad unigol neu'n rhan o ymgyrch barhaus o aflonyddu neu frawychu. Mae’n drosedd afiach a chymhleth ac mae’n gallu achosi niwed corfforol ac emosiynol i ddioddefwyr sy’n parhau am flynyddoedd.
“Mae helpu pob cymuned i ddeall pwysigrwydd riportio troseddau casineb yn hollbwysig. Bydd creu deunyddiau mewn fformat hygyrch, Hawdd ei Ddarllen, yn rhoi gwybodaeth i unigolion agored i niwed i'w helpu nhw i adnabod arwyddion trosedd casineb a lle i geisio cymorth os ydynt yn dioddef.”
Mae trosedd casineb yn drosedd y mae'r dioddefwr, neu unrhyw un arall, yn credu sy'n seiliedig ar ragfarn rhywun tuag atynt oherwydd eu:
- Hil
- Crefydd neu ffydd
- Cyfeiriadedd rhywiol
- Anabledd
- Cyfeiriadedd o ran rhywedd.
Gallai fod ar ffurf:
- Camdriniaeth eiriol neu gorfforol
- Bwlio
- Ymddygiad bygythiol
- Camdriniaeth ar-lein
- Difrod i eiddo.
Mae'n hollbwysig bod digwyddiadau o drosedd casineb yn cael eu riportio a'u cofnodi gan yr heddlu.
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.
Os nad yw’n argyfwng, gallwch riportio trosedd casineb trwy:
- Ffonio 101
- Anfon neges @heddlugwent ar Twitter.
- Anfon neges at Heddlu Gwent ar Facebook www.Facebook.com/GwentPolice
- E-bostio contact@gwent.police.uk
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan drosedd casineb gallwch fynd at gymorth a chefnogaeth bwrpasol trwy ganolfan dioddefwyr Connect Gwent.
Connect Gwent
Ffoniwch: 0300 302 3670
Ewch i: https://connectgwent.org.uk