Gostyngiad mewn byrgleriaethau yng Ngwent yn 2021
Mae’r ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod byrgleriaethau wedi gostwng yng Ngwent yn 2021.
Gostyngodd byrgleriaeth dibreswyl 21 y cant, a gostyngodd byrgleriaeth o eiddo preswyl 11 y cant.
Mae’r ffigurau’n dangos bod Gwent yn parhau i fod â rhai o’r lefelau isaf o droseddau a gofnodir yn y Deyrnas Unedig.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae cadw cymunedau’n ddiogel yn flaenoriaeth allweddol i fi, ac mae’r gostyngiad sylweddol mewn byrgleriaethau, er ei fod yn rhannol o ganlyniad i’r pandemig, yn ganlyniad plismona rhagweithiol sy’n diogelu eiddo ac yn mynd i’r afael â’r gadwyn gyflenwi droseddol.
“Mae cynllun Dangos y Drws i Drosedd Heddlu Gwent yn helpu i amddiffyn ein preswylwyr yn eu cartrefi, eu busnesau a’u cymunedau.
“Dim ond gyda chefnogaeth ein partneriaid y gallwn ni amddiffyn cymunedau ar y raddfa yma, ac rydyn ni wrthi’n annog cynghorau cymuned lleol i ymuno â ni a defnyddio rhywfaint o’u cyllid dynodedig i ddarparu pecynnau atal trosedd i drigolion yn eu hardaloedd.
“Mae llawer o ddiddordeb eisoes wedi bod, ac rwy’n annog cynghorau cymuned i gamu ymlaen a darganfod mwy.”
Mae’r cynllun cymdogaethau Dangos y Drws i Drosedd yn caniatáu i gynghorau cymuned brynu pecynnau atal trosedd ar gyfer eu trigolion lleol. Mae’r pecynnau’n cynnwys SmartWater, sy’n galluogi trigolion i greu marc fforensig ar eu heiddo, ac arwyddion i rybuddio lladron.
Meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman:
“Rydyn ni’n gweithio’n galed i feithrin ymddiriedaeth ar draws ein cymunedau, ac i egluro pwysigrwydd diogelwch cartref a mesurau eraill i atal troseddau.
“Newidiodd y pandemig lawer o bethau - o’r ffordd rydyn ni’n gweithio, i’r ffordd rydyn ni’n byw. Un o’r canlyniadau yw cwymp mewn troseddau manteisgar fel byrgleriaethau.
“Er bod y gostyngiad yma’n beth cadarnhaol, rhaid i ni beidio â llaesu dwylo.
“Mae ein tîm Dangos y Drws i Drosedd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â throseddau meddiangar gan ddefnyddio technoleg marcio eiddo’n fforensig, codi arwyddion lleol, a thactegau plismona eraill.
“Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni barhau i ganfod ac atal troseddau ledled Gwent.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Heddlu Gwent.