Gofyn am Angela
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd yn galw ar dafarndai, clybiau a lleoliadau trwyddedig eraill yng Ngwent i gymryd llw Gofyn am Angela a helpu i atal aflonyddu a thrais rhywiol.
Ymgyrch diogelwch yw Gofyn am Angela sy'n cael ei ddefnyddio mewn bariau, clybiau a lleoliadau eraill i roi cymorth i unrhyw un sy'n teimlo mewn perygl, dan fygythiad neu yn anghyfforddus, yn arbennig ar ddêt neu noson allan.
Gall unrhyw un sydd angen help ofyn am 'Angela', a bydd staff sydd wedi cael eu hyfforddi yn rhoi cymorth iddyn nhw. Gallai hyn gynnwys helpu rhywun i adael yn ddiogel, eu galluogi nhw i aros ble maen nhw yn ddiogel neu gysylltu â staff diogelwch neu'r heddlu os oes angen.
Meddai Jane Mudd: "Rwyf yn cefnogi cynllun llw newydd ymgyrch Gofyn am Angela, ac rwyf yn gweithio'n galed i sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno'n lleol i bob safle trwyddedig yng Ngwent.
"Mae'n ymgyrch diogelwch syml ond effeithiol sy'n helpu i leihau neu atal trais rhywiol a gwneud i bobl deimlo'n llai agored i niwed mewn tafarndai, clybiau a lleoliadau trwyddedig, yn arbennig o fewn economi'r nos.
"Byddwn yn annog pob eiddo yng Ngwent i ymuno â'r cynllun. Gallai wneud gwahaniaeth go iawn i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau."
Ymunwch yma - Ask for Angela