Galw ar drigolion i gyflawni Her 149 Diwrnod Rhuban Gwyn Gwent

28ain Hydref 2020

Eleni, cynhelir Diwrnod Rhuban Gwyn ddydd Mercher 25 Tachwedd, ac mae angen eich cymorth chi.
Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn ddigwyddiad blynyddol sy’n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig dros Ddileu Trais yn erbyn Menywod, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth a gweithio tuag at roi terfyn ar drais dynion tuag at fenywod.


Yn 2018, cafodd 149† o fenywod eu lladd gan ddynion yn y DU. Cafodd mwy na’u hanner eu lladd gan gyn ŵr neu bartner, ac roedd bron pob un wedi ei lladd gan ddyn yr oedd y fenyw yn ei adnabod.
Fel arfer, cynhelir taith gerdded gymunedol am filltir yng Ngwent i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn; ond oherwydd Covid-19, ni fydd hyn yn bosibl eleni. Yn hytrach, rydym yn cynnal #Her149 a chaiff pawb gymryd rhan.
Esboniodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae Covid-19 yn golygu na ellir cynnal y daith gerdded draddodiadol i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn, ond mae’n hanfodol ein bod yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i godi ymwybyddiaeth o gam-drin a’r angen i’w ddileu.


“Oherwydd hyn, rydym yn rhoi cynnig ar rywbeth newydd eleni. Rydym yn annog pobl a sefydliadau i gymryd rhan mewn #Her149 ac i gyhoeddi eu cyflawniadau arlein. Caiff pobl, ysgolion, sefydliadau, timau chwaraeon a grwpiau cymunedol osod eu her eu hunain gan ganolbwyntio ar y rhif 149. Gallai hyn fod yn eiliadau, munudau neu unrhyw beth arall o’ch dewis chi. Gallech chi hyd yn oed bobi 149 o deisennau, dringo 149 o risiau neu ysgrifennu cerdd sydd â 149 o eiriau. Eich her chi yw hi, penderfynwch chi.

“Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod yn rhannu’r neges hon, yn cefnogi eraill i ymgyrchu yn erbyn trais yn erbyn menywod, ac yn annog unrhyw un sy’n dioddef cam-drin i siarad am y peth. Peidiwch â dioddef yn dawel, mae cymorth ar gael.”


Mae’r #Her149 yn cael ei threfnu gan Fwrdd Partneriaeth Trais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig (VAWDASV) Rhanbarthol Gwent , sef cydweithrediad amlasiantaeth sy’n gweithio ledled Gwent i atal cam-drin yn erbyn menywod, camdrin domestig a thrais rhywiol. Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Heddlu Gwent yn cefnogi’r Bwrdd gyda’i ymgyrch #Her149.


Gallai’r #Her149 fod yn rhywbeth yr ydych yn ei wneud ar eich pen eich hun, gyda phobl o’r un aelwyd â chi, neu yn rhan o dîm cyfnewid (yn unol ag unrhyw reolau cadw pellter cymdeithasol ar y pryd). Er enghraifft, gallech chi:


Gerdded neu redeg am 149 munud Dringo 149 o risiau Beicio 149 cilometr Gwneud cwrs cylchedau sy’n cynnwys 149 eiliad ar bob ymarfer, e.e. naid seren, byrpis, plancio – eich dewis chi yn llwyr! Os nad ydych yn un am chwaraeon, beth am ddefnyddio eich dychymyg? Gallech chi bobi 149 o deisennau rhwng pawb yn eich grŵp neu sefydliad, ceisio cadw’n dawel am 149 munud (syniad gwych i’r plant!), neu ysgrifennu cerdd sydd â 149 o eiriau.


Gellid cynnal yr her ar 25 Tachwedd neu unrhyw bryd yn ystod yr 16 diwrnod o weithredu sy’n dod i ben ar 10 Rhagfyr.


Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman:
“Mae mynd i’r afael â cham-drin domestig ac amddiffyn dioddefwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Heddlu Gwent. Mae’n bwysig cofio nad yw cam-drin domestig yn gwahaniaethu – gall unrhyw un fod yn ddioddefwr ni waeth beth yw ei oedran, rhyw, rhywioldeb, na’i gefndir cymdeithasol.

“Nid yw bob amser yn drosedd sy’n weladwy iawn, gellir ei chuddio, felly mae angen i bob un ohonom ni ofalu am y rhai mewn angen a’u helpu. Ni ddylai unrhyw un ddioddef yn dawel a byddwn i’n annog unrhyw un sy’n dioddef neu sy’n dyst i’r math hwn o gam-drin ddweud wrth rywun amdano.


“Rwy’n gwybod y gall dweud wrth rywun arall fod yn anodd a hoffwn dawelu meddwl y rhai sy’n dioddef bod cymorth a chyngor rhagorol ar gael trwy ein hwb dioddefwyr gan Connect Gwent, ble mae gennym ni staff cymorth sydd wedi eu hyfforddi’n bwrpasol ar gael i’ch helpu.


“Mae angen i ni hefyd annog pobl i siarad ar goedd yn erbyn y mathau hyn o droseddau a chodi ymwybyddiaeth o’r effaith ofnadwy y gallan nhw ei chael ar fywydau pobl. Gall pawb chwarae rhan yn hyn.
“25 Tachwedd yw ein cyfle ni i dynnu sylw at effaith cam-drin a thrais domestig ar unigolion, teuluoedd a chymunedau.”


Mae pecyn cymorth ar-lein ar gael i’w lawrlwytho o https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/amdanom-ni/partneriaethau/diwrnod-rhubangwyn-2020/ ac mae hyn yn cynnwys syniadau, templedi celf ac awgrymiadau ar gyfer cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Gall busnesau a sefydliadau ddangos eu cefnogaeth hefyd trwy fod yn sefydliad achrededig y Rhuban Gwyn. Ewch i www.whiteribbon.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.


Dywedodd Janice Dent, cynghorydd arweiniol rhanbarthol ar gyfer ‘Trais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig Gwent’: “Rydym ni’n gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn cymryd rhan yn y digwyddiad hwn i ddangos eu cefnogaeth a’u hymrwymiad i greu byd heb drais tuag at fenywod a merched.


“Yn anffodus, mae gormod o bobl yn byw mewn ofn ac yn dioddef yn dawel. Rydym ni’n gwybod bod dioddefwyr yn ei chael hi’n anodd adrodd am hyn, ond mae’n hanfodol eu bod nhw’n gwneud hynny. Rwy’n annog unrhyw un sy’n dioddef camdrin neu’n adnabod rhywun sy’n dioddef cam-drin i ddweud wrth rywun amdano.”

Mae’r llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael bob awr o’r dydd a nos i unrhyw un y mae cam-drin yn effeithio arnyn nhw ac mae’n cefnogi dioddefwyr, goroeswyr a’u hanwyliaid. Ffoniwch 0808 8010 800 neu anfonwch neges destun i 07860 077333.