Galw ar bobl ifanc yng Ngwent

4ydd Chwefror 2022

Mae cyfle i bobl ifanc ledled Gwent gymryd rhan mewn digwyddiad 'hawl i holi' ar-lein sy'n cael ei gynnal gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent a Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent ddydd Iau 10 Mawrth 4.30pm - 6.30pm.

Mae'r digwyddiad yn gyfle i holi panel o weithwyr proffesiynol sy'n arbenigo mewn amrywiaeth eang o faterion y mae pobl ifanc wedi dweud wrth fy nhîm sy'n bwysig iddyn nhw. 

Yn dilyn canlyniadau'r arolwg 'Beth sy'n bwysig i chi?' a gwblhawyd gan bobl ifanc o bob rhan o'r sir, mae amrywiaeth o faterion wedi cael eu nodi fel rhai pwysig:

  • plismona
  • iechyd meddwl
  • mynd i'r afael â gwahaniaethu a throsedd casineb
  • cydberthnasau diogel ac iach

Mae croeso i bobl ifanc o fforymau ieuenctid, sefydliadau, ysgolion, sefydliadau ieuenctid a gweithwyr proffesiynol yn y maes ieuenctid yng Ngwent i fod yn rhan o'r digwyddiad.

Gellir anfon cwestiynau cyn y digwyddiad at: commissioner@gwent.pnn.police.uk neu yn ystod y sesiwn.

I gofrestru, ewch i: Tocynnau Hawl i Holi Ieuenctid Gwent 2022 Swyddfa'r Comisiynydd, Iau 10 Mawrth 2022 am 16:30 | Eventbrite

Mae'r panel yn cynnwys:

  • Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent
  • Pam Kelly, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent
  • Dr Rachel Evans, Gwasanaeth Seicoleg a Therapïau Plant a Theuluoedd
  • Kelly Harris, Brooke Cymru
  • Rebecca Stanton, Iechyd Meddwl a Lles Plant - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Chris Hunt, Tîm Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol

 

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae barn pobl ifanc yn eithriadol o bwysig i mi.

“Mae digwyddiadau fel Hawl i Holi Ieuenctid yn cynnig llwyfan unigryw i weithwyr proffesiynol, gwneuthurwyr polisi ac aelodau'r gymuned ddeall beth sydd yn bwysig i bobl ifanc.

“Dim ond trwy weithio mewn partneriaeth gyda phobl ifanc y byddwn yn deall yr hyn sydd ei angen er mwyn gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc yn awr ac yn y dyfodol."