Galw ar bobl ifanc!

24ain Ionawr 2022

Rydym yn annog pobl ifanc ledled Gwent i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein byr i helpu i nodi'r materion sy'n bwysig iddynt.

 

Bydd y themâu a nodir yn cael eu defnyddio i helpu i lunio Hawl i Holi Ieuenctid 2022 Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. 

 

Bydd y digwyddiad Hawl i Holi yn cael ei gynnal dydd Iau 10 Mawrth o 4.30pm tan 6.30pm gan bobl ifanc o Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent, mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

 

Bydd panel o weithwyr proffesiynol o amrywiaeth o wasanaethau  wrth law i wrando ac i ateb cwestiynau ar bynciau llosg.

Bydd yr arolwg yn helpu'r grŵp cynllunio i ddeall pa faterion sy'n bwysig i bobl ifanc ac yn helpu i lunio aelodau'r panel.

Beth sydd o bwys I chi? 

 

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae barn pobl ifanc yn eithriadol o bwysig i mi.

 

“Mae digwyddiadau fel Hawl i Holi Ieuenctid yn cynnig llwyfan unigryw i weithwyr proffesiynol, gwneuthurwyr polisi ac aelodau'r gymuned ddeall beth sydd yn bwysig i bobl ifanc.

 

"Dim ond trwy weithio mewn partneriaeth gyda phobl ifanc y byddwn yn deall yr hyn sydd ei angen er mwyn gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc yn awr ac yn y dyfodol."

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: commissioner@gwent.police.uk