Ffyrdd newydd i gael y newyddion diweddaraf gan eich Comisiynydd Heddlu a Throsedd

16eg Ebrill 2025

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi cyflwyno ffyrdd newydd i gael y newyddion diweddaraf am ei gwaith.

Gall preswylwyr gysylltu â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Bluesky a Threads yn awr, yn ogystal â'i chyfrifon Facebook ac Instagram presennol.

Gall pobl gofrestru i dderbyn newyddion uniongyrchol hefyd trwy gyfrwng e-fwletin pwrpasol y Comisiynydd, a chael diweddariadau pwysig trwy gyfrwng Whatsapp.

Dilynwch GwentPCC ar Bluesky, Facebook, Instagram a Threads.

Cofrestrwch ar gyfer e-fwletin y Comisiynydd.

Cysylltwch ar WhatsApp.