Fforwm newydd y Comisiynydd yn rhoi mwy o lais i breswylwyr
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi lansio menter newydd i sicrhau bod lleisiau preswylwyr Gwent yn cael eu clywed gan y bobl sy'n gwneud penderfyniadau yn Heddlu Gwent.
Trwy ei Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus, sydd newydd gael ei sefydlu, mae Comisiynydd Mudd yn tynnu sylw at y prif faterion a phryderon mae cymunedau ledled y rhanbarth wedi eu codi ac yn eu cyfeirio'n uniongyrchol at sylw Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Mark Hobrough.
Cafodd y fforwm cyntaf ei recordio yng Nghanolfan Treftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar. Bydd pob fforwm ar gael ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol y Comisiynydd, gan sicrhau tryloywder a hygyrchedd.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Cefais fy ethol i ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ar ran pobl Gwent, ac mae hynny'n golygu gwrando ar yr hyn sydd fwyaf pwysig i'n cymunedau. Mae'r Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus yn fodd i bobl leisio pryderon am y problemau go iawn maen nhw'n eu hwynebu a sicrhau eu bod yn cael sylw ar y lefel uchaf.
"Mae hyn yn ymwneud â mwy na holi cwestiynau yn unig. Mae'n ymwneud â meithrin ymddiriedaeth, gwella tryloywder, a sicrhau bod plismona yng Ngwent yn adlewyrchu anghenion a disgwyliadau'r bobl mae'n eu gwasanaethu.”
Mae sesiynau pellach ar y gweill ar gyfer Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Mae'r fenter yn rhan o ymrwymiad parhaus y Comisiynydd i sicrhau bod preswylwyr yn cael eu clywed a bod eu lleisiau'n helpu i lywio blaenoriaethau plismona lleol.