Ffilm addysgol yn mynd i'r afael â gangiau 'Ffiniau Sirol' treisiol sy'n cam-fanteisio ar bobl ifanc
Mae Fearless.org, gwasanaeth ieuenctid yr elusen Crimestoppers, yn lansio ffilm newydd yng Ngwent yr wythnos hon i godi ymwybyddiaeth o sut mae gangiau cyffuriau 'Ffiniau Sirol' yn cam-fanteisio ar bobl ifanc i symud a gwerthu cyffuriau.
'Ffiniau Sirol' yw'r enw a roddir ar rwydweithiau cyffuriau sy'n cael eu rheoli gan gangiau y tu allan i'w dinasoedd a threfi cartref ac sy'n symud cyffuriau ar draws ffiniau sirol.
Cafodd y ffilm - Running the Lines - ei gynhyrchu gan gwmni cynyrchu It's My Shout ar gyfer prosiect Fearless Cymru. Mae'n dilyn cymeriad o'r enw Evan sy'n cael ei baratoi, ei ecsbloetio a'i fygwth i ddod yn smyglwr cyffuriau i gang troseddau cyfundrefnol o Lundain. Ysbrydolwyd y stori ffuglen gan hanesion am achosion Ffiniau Sirol go iawn, gan gynnwys y defnydd o drais gan gangiau o'r fath.
Bydd Running the Lines yn cael ei lansio ar draws ardaloedd y pedwar llu heddlu yng Nghymru yn ystod mis Mehefin, ac mae'n rhan o weithdy addysgol ac ymgyrch ymwybyddiaeth newydd gan Fearless.
Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent: “Mae Ffiniau Sirol yn broblem sy'n tyfu yn ein cymunedau. Mae'n gymhleth, yn gudd yn aml, ac mae'n targedu'r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas. Mae'n rhan o'r darlun ehangach o drosedd difrifol a chyfundrefnol sy'n effeithio ar fwy o ddinasyddion y DU nac unrhyw fygythiad arall i ddiogelwch gwladol.
“Mae Crimestoppers, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth St Giles, wedi gweithio gyda naw ysgol gyfun yng Nghasnewydd, gan ymgysylltu a rhyw 6000 o blant rhwng 11 a 14 oed i gyflwyno negeseuon a chyngor allweddol iddynt ar adeg hollbwysig yn eu datblygiad. Bydd y fideo hwn yn cefnogi'r gwaith hwnnw. Mae'n esbonio gwirioneddau creulon bywyd pobl sy'n gweithio i gang troseddol a gobeithio y bydd yn rhwystro pobl ifanc rhag dod yn rhan o'r fath hon o drosedd.”
Bydd Fearless.org, sydd â gweithwyr ieuenctid yn gweithio ym mhob rhan o Gymru yn awr, yn helpu i fynd i'r afael â'r broblem o ddiffyg hysbysu am drosedd ymysg pobl ifanc. Trwy ei wefan, gall pobl ifanc drosglwyddo gwybodaeth am droseddau maen nhw wedi bod yn dyst iddyn nhw i Fearless.org yn gwbl anhysbys a diogel.
Dywedodd Ella Rabaiotti, Rheolwr Cenedlaethol Cymru elusen Crimestoppers: "Mae pobl ifanc yn dod yn rhan o gangiau troseddol ond yn aml iawn nid ydynt yn sylweddoli eu bod yn cael eu hecsbloetio ac nid ydynt yn teimlo'n ddigon hyderus i chwilio am help.
“Byddwn yn defnyddio'r ffilm i ddechrau sgwrs gyda phobl ifanc - yn benodol trwy wneud gangiau cyffuriau'n llai hudol a deniadol a thrwy herio unrhyw gamdybiaethau am gario cyllyll. Trwy ein prosiect Running the Lines rydym yn gobeithio y gallwn rymuso pobl ifanc i fod yn ymwybodol o'r problemau, teimlo'n fwy diogel a bod yn hyderus i hysbysu am droseddau - gan gynnwys yr opsiwn o ddefnyddio Fearless.org yn anhysbys.”
Dyma'r ail ffilm i gael ei gynhyrchu gan It's My Shout o Bencoed. Lansiwyd y ffilm gyntaf, a wnaed mewn partneriaeth â rhaglen ysgolion ar y cyd yr heddlu, yn 2017. Mae Are you Fearless? ar gael ar safle YouTube Fearless.org ac mae'n annog pobl ifanc i adnabod troseddau a hysbysu amdanynt.