Ffigyrau trosedd yn dangos bod Gwent yn un o'r llefydd mwyaf diogel yn y DU
Mae Gwent yn un o'r llefydd mwyaf diogel yn y DU yn ôl ffigyrau trosedd diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.
Dengys y ffigyrau a ryddhawyd ar gyfer Mehefin - Medi 2020 bod gan Went un o'r lefelau isaf o droseddau cofnodedig o'i chymharu ag ardaloedd lluoedd heddlu eraill a bod lefelau trosedd yn gyffredinol wedi cwympo ers 2019.
Fodd bynnag, mae'r heddlu a gwasanaethau cymorth yn rhybuddio nad yw troseddau megis trais rhywiol a cham-drin domestig yn cael eu riportio'n ddigonol gan ddioddefwyr yn ystod pandemig Covid.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: “Mae Gwent yn parhau i fod yn un o'r llefydd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddo, ac i ymweld ag, ef yn y DU ac rwyf yn argyhoeddedig bod hyn yn adlewyrchu ymroddiad a phenderfyniad Heddlu Gwent i amddiffyn ein cymunedau.
“Mae lefel troseddau cofnodedig yn is ar draws y wlad ers dechrau'r pandemig, ond rydym yn bryderus iawn nad yw troseddau megis trais rhywiol a cham-drin domestig yn cael eu riportio'n ddigonol.
"Efallai bod dioddefwyr yn gaeth yn eu cartrefi gyda’r sawl sy’n eu cam-drin, neu'n ofni y byddant yn mynd i drwbl am dorri cyfyngiadau Covid os byddant yn cyflwyno eu hunain i'r heddlu.
"Rwy'n gwybod ei fod yn anodd ond os ydych chi wedi dioddef y troseddau hyn rwyf am eich sicrhau bod cymorth ar gael a gofynnaf yn daer arnoch i riportio'r mater. Os nad ydych am siarad â'r heddlu, gall ein hasiantaethau partner roi cymorth i chi, a'ch cadw yn ddiogel."
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Ian Roberts: "Mae'r cwymp hwn mewn trosedd yn gyffredinol yng Ngwent yn galonogol. Trwy gydol y pandemig rydym wedi gweithio i fynd i'r afael ag ymddygiad troseddol parhaus ochr yn ochr â gorfodi'r ddeddfwriaeth a rheolau newydd mewn ffordd deg. Rydym wedi canolbwyntio ar gynnal gweithrediadau heddlu rhagweithiol i dargedu'r problemau sydd o'r pwys mwyaf i bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Ngwent, trwy fynd i'r afael â chyffuriau a lladrata a thrwy ddiogelu aelodau mwyaf bregus ein cymuned.
"Hoffwn ddiolch i gymunedau lleol am y rhan maent wedi ei chwarae yn cadw eu hunain a phobl eraill yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn a hefyd am roi gwybodaeth werthfawr i ni er mwyn i ni allu parhau i gymryd camau gweithredu, rhoi cymorth i'r bobl sydd ei angen a dwyn troseddwyr gerbron y llysoedd."
Gall dioddefwyr riportio digwyddiadau i Heddlu Gwent trwy ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng.
Mae cymorth ar gael gan wasanaethau cymorth sy'n ymdrin yn benodol â cham-drin a thrais rhywiol hefyd.
Mae Llwybrau Newydd yn darparu gwasanaethau cymorth i bobl sydd wedi dioddef treisio a cham-drin rhywiol, a gwasanaethau arbenigol ar gyfer plant sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol.
Gwefan: www.newpathways.org.uk
E-bost: enquiries@newpathways.org.uk
Ffôn: 01685 379 310
Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn darparu gwasanaethau cymorth ledled Gwent i bobl sydd wedi dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Gwefan: https://cyfannol.org.uk/contact
Ffôn: 01495 742052
Mae Canolfan Dioddefwyr Connect Gwent yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth ac nid oes rhaid i chi fod wedi riportio trosedd i'r heddlu i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.
Gwefan: www.umbrellacymru.co.uk/connect-gwent
E-bost: connectgwent@gwent.pnn.police.uk
Ffôn: 0300 123 2133