Ffigyrau trosedd diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol

1af Tachwedd 2024

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi rhyddhau ei ffigyrau tri mis ar gyfer troseddau a gofnodwyd yng Nghymru a Lloegr.

Mae ystadegau'n dangos bod troseddau a gofnodwyd yng Ngwent wedi cwympo tri y cant o gymharu â mis Mehefin 2023.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod dwyn o siopau wedi codi ar draws y wlad o gymharu â'r un cyfnod y llynedd. 

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae'r ffigyrau troseddau a gofnodwyd yn gallu bod yn ddefnyddiol wrth ddangos tueddiadau trosedd, ond mae'n rhaid edrych arnynt yn y cyd-destun cywir.

“Maen nhw'n gallu adlewyrchu ymwybyddiaeth genedlaethol o broblemau, newidiadau i arferion cofnodi, ymgyrchoedd plismona rhagweithiol, neu fod hyder y cyhoedd i riportio troseddau penodol yn cynyddu er enghraifft.

“Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod lefel troseddau a gofnodwyd yn parhau i fod yn sefydlog ar y cyfan yng Ngwent ac mae meysydd lle rydyn ni wedi gweld cynnydd amlwg, fel dwyn o siopau, yn gyson â heddluoedd ledled y wlad.

"Mae'r cynnydd mewn achosion o ddwyn o siopau yn y Deyrnas Unedig yn achos pryder go iawn ac mae'r sarhad a'r trais sy'n cyd-fynd â'r digwyddiadau yma'n gallu achosi trawma i ddioddefwyr a difetha busnesau bach.

"Yn ddiweddar ymunais â chydweithwyr o bob rhan o Gymru mewn digwyddiad bord gron a gynhaliwyd gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru lle gwnaethom drafod gwahanol ddulliau o atal dwyn o siopau a thrais yn erbyn gweithwyr mewn siopau. "Rwyf yn hyderus ein bod yn gwneud cynnydd go iawn yma yng Nghymru ac mae hyn yn rhywbeth a fydd yn parhau yn flaenoriaeth i mi trwy gydol fy nghyfnod yn y swydd.

"Rydyn ni'n gwybod bod nifer o droseddau'n digwydd nad ydynt yn cael eu riportio, yn arbennig troseddau fel twyll, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae cymorth a chefnogaeth ar gael felly, da chi, os ydych chi wedi dioddef trosedd, riportiwch y mater.”