Ffigyrau trosedd diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol
Mae'r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol wedi rhyddhau ei ffigyrau trosedd diweddaraf ar gyfer Cymru a Lloegr.
Mae'r ffigyrau, sy'n dangos cyfanswm y troseddau a gofnodwyd rhwng mis Mawrth 2018 a mis Mawrth 2019, yn datgan bod 58,536 o droseddau wedi cael eu cofnodi yng Ngwent, rhyw 20 y cant yn fwy na'r flwyddyn flaenorol.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Ers 2016, mae nifer gwirioneddol y troseddau a gofnodwyd wedi cynyddu'n rheolaidd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu o reidrwydd bod nifer y digwyddiadau yng Ngwent wedi cynyddu gan unrhyw beth tebyg i'r canran hwn.
"Er fy mod yn dawel fy meddwl y gellir priodoli'r cynnydd mewn troseddau a gofnodir i ddata mwy cywir, yn hytrach nac unrhyw newid sylweddol yn nifer gwirioneddol y troseddau, rhaid rheoli pob trosedd sy'n cael ei chofnodi.
“Mae'n debygol y bydd y galw hwn ar ein gwasanaeth heddlu'n parhau i gynyddu.
"Mae angen cymorth ychwanegol ar luoedd heddlu, ynghyd â chyllid priodol gan lywodraeth y DU, i sicrhau ein bod yn gallu parhau i amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.
"Fel bob amser, byddaf yn trafod y ffigyrau hyn yn fanwl gyda'r Prif Gwnstabl er mwyn penderfynu pa gamau y gallwn eu cymryd i wneud Gwent yn lle mwy diogel i fyw a gweithio ynddo, ac i ymweld ag ef.
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Gwent, Jon Edwards: “Gellir priodoli'r cynnydd hwn mewn troseddau cofnodedig i raddau helaeth i'r ffaith bod ein harferion cofnodi troseddau wedi gwella, ac mae hyn i'w weld mewn llawer o luoedd Heddlu ledled Cymru a Lloegr.
“Er enghraifft, mae llawer o ddigwyddiadau a oedd yn cael eu cyfrif fel ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu cofnodi fel troseddau trefn gyhoeddus yn awr, ac rydym wedi gweld gwelliannau yn y gwaith o gofnodi troseddau stelcio ac aflonyddu hefyd.
“Rydym wedi ymroi i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl, a hoffwn sicrhau ein cymunedau bod Gwent yn parhau i fod yn lle diogel i ymweld ag ef ac i fyw a gweithio ynddo."