Ffermwyr Ifanc Gwent
Roeddwn yn falch i dderbyn gwahoddiad gan Ffermwyr Ifanc Gwent yr wythnos ddiwethaf i ymuno â nhw mewn cystadleuaeth ranbarthol i benderfynu pwy fydd yn cynrychioli Gwent yng Ngwledd Adloniant Ffermwyr Ifanc Cymru.
Mae Ffermwyr Ifanc Gwent yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc gymdeithasu a dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd diogel, llawn hwyl. Er bod gwreiddiau'r mudiad mewn ffermio, mae'n agored i bawb o bobl ifanc Gwent.
Rwyf wedi cefnogi'r mudiad trwy Gronfa'r Uchel Siryf, yr wyf yn cyfrannu ato'n flynyddol, ac roedd yn bleser gweld sut mae cymaint o bobl ifanc yn cael budd ohono.
Clwb Ffermwyr Ifanc Y Fenni enillodd y gystadleuaeth a dymunaf bob hwyl i'r aelodau yn y digwyddiad cenedlaethol.